
Gwahoddir aelodau’r IISTL i siarad mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn fynych, ac mae haf 2022 wedi bod yn gyfnod prysur iawn i sawl aelod. Bu'r aelodau canlynol yn rhan o ddigwyddiadau amrywiol:
Gwnaeth Dr Kurtz-Shefford barhau â'i rôl fel cyd-gynullydd adran Ynni cynhadledd SLS a gynhaliwyd eleni yng Ngholeg y Brenin Llundain ar ddechrau mis Medi 2022. Bu'n goruchwylio deuddydd o gyflwyniadau ar amrywiaeth eang o bynciau sy'n ymwneud â chyfraith ynni, gan gynnwys trafodaethau am gyfiawnder wrth newid i ffynonellau ynni newydd, datblygiadau polisi ar gyfer technolegau gwyrdd sy'n dod i'r amlwg ac olew a nwy. Gan bod hon yn adran newydd yn yr SLS, mae'r pwnc wedi cynyddu o ran pwysigrwydd a phoblogrwydd. Mae bellach yn ymffrostio mewn niferoedd sydd gyfwerth â'r rhai a geir mewn adrannau mwy sefydledig ac mae'n parhau i dyfu, oherwydd eleni denwyd papurau gan academyddion yn y DU ac yn rhyngwladol.
Cyflwynodd Dr George Leloudas bapur ar longau awtonomaidd yn y 10fed Gynhadledd Ryngwladol ar Gyfraith Forwrol a drefnwyd gan Brifysgol Athens a Chymdeithas y Bar Piraeus rhwng 26 a 28 Mai 2022. Cyflwynodd bapur hefyd ar reoleiddio dronau awtonomaidd yn y DU yn y Gweithdy RAPID a drefnwyd gan Brifysgol Dundee rhwng 8 a 10 Medi 2022.
Cyflwynodd Dr Aygun Mammadzada bapur o’r enw “Multilateralism post-Brexit: Do the Hague Conventions preserve the status quo of judicial cooperation?” yn y panel Gwrthdaro Cyfreithiau ac Ymgyfreithiad yn 113eg gynhadledd flynyddol Cymdeithas yr Ysgolheigion Cyfreithiol a gynhaliwyd yng Ngholeg y Brenin Llundain rhwng 6 a 9 Medi 2022. Thema’r gynhadledd eleni oedd ‘The links and connections to legal development’ i archwilio'r cysylltiadau o fewn un system gyfreithiol ac ar draws sawl system gyfreithiol a'u dylanwad ar ddatblygu'r gyfraith. Bu papur Aygun yn archwilio polisi amlochroldeb yr UE o ran cydweithredu barnwrol sifil â'r DU yng ngoleuni Confensiynau'r Hag, gan amlygu natur adferedig cymhwyso amlochroldeb mewn cydweithredu barnwrol sifil ynghyd â'i aneffeithlonrwydd. Cyn hynny ym mis Mehefin 2022, cymerodd ran mewn Symposiwm Rhyngwladol o'r enw ‘The role of courts in the digital era and access to justice’ a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Radboud yn Nijmegen, yr Iseldiroedd, ar y cyd â’r grŵp Institutions for Conflict Resolution, y grŵp Digital Legal Studies a'r Hyb Rhyngddisgyblaethol ar Breifatrwydd, Diogelwch a Llywodraethu Data (iHub). Roedd ei phapur, “Digitalisation of Justice Systems and a New Role for Soft Law”, yn archwilio pwysigrwydd allweddol cyfraith feddal gan awgrymu bod ymddangosiad ac ehangu digideiddio ymhellach yn agor gorwelion newydd i ailasesu rheoleiddio meddal.
Cyflwynodd Dr Youri Van Logchem bapur yn y Seminar ar Ddatblygu Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Llongau Arwyneb Awtonomaidd Morwrol (MASS) y Sefydliad Morwrol Rhyngwladol (IMO) ar banel a fu’n’ ymdrin â “Regulating MASS within the framework of UNCLOS”. Teitl ei bapur oedd “MASS and the 1982 Law of the Sea Convention – A Paradigm Shift or Old _in ein New Wineskins?” Cadeiriwyd y panel gan Ms Gillian Grant sef Cadeirydd Pwyllgor Cyfreithiol yr IMO. Y cyflwynwyr eraill ar y panel oedd yr Athro Aldo Chircop (Prifysgol Dalhousie) a Mr Murat Sumer (y Sefydliad Cyfraith Forwrol Ryngwladol (IMLI)). Cynhaliwyd seminar yr IMO cyn y Pwyllgor Diogelwch Morwrol (MSC)/y Pwyllgor Cyfreithiol (LEG)/Cyd-weithgor y Pwyllgor Hwyluso (FAL) ar MASS (MASS-JWG) rhwng 7 a 9 Medi 2022 i lywio trafodaethau am y ffordd orau o reoleiddio MASS.
Gwahoddwyd yr Athro Soyer i gyflwyno papur ym mis Mai o’r enw “Cyber Risk Insurance for Maritime Sector” yn y 10fed Gynhadledd Ryngwladol ar Gyfraith Forwrol a drefnwyd gan Gymdeithas y Bar Piraeus yn Athens. Roedd yn rhan o banel o siaradwyr a oedd yn cynnwys Mr Fred Kenney (Cyfarwyddwr Materion Cyfreithiol ac Allanol, IMO) a Mr Manolis Kostantinidis (Dr Jur. Atwrnai yn y Gyfraith). Ym mis Awst, cyflwynodd bapur o’r enw “Insuring Autonomous and Remote Shipping” yn y gynhadledd Implementing 'Fit for 55'- The Right Logistics and Transport Infrastructure for A Net-Zero Carbon Future a drefnwyd gan Grŵp Ymchwil INTERTRAN Prifysgol Helsinki ar y cyd â Siambr Fasnach y Ffindir/Sweden (FINSVE).
Gwahoddwyd yr Athro Tettenborn ym mis Medi gan Gymdeithas Ryngwladol yr Economegwyr Morwrol a Sefydliad Morwrol Corea i Seoul i siarad mewn cynhadledd ryngwladol. Cyflwynodd bapur yn y sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar ddiogelwch a diogeledd ar y môr gan werthuso sut roedd rheolau cyfraith breifat ar ddiogelwch etc wedi datblygu'n fwy penodol ac yn llai dibynnol ar safonau amwys o ganlyniad i ddeddfwriaeth a chymalau cytundebol ad hoc.