
Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) rhwng 6 a 7 Medi, yn ei fformat wyneb yn wyneb traddodiadol am y tro cyntaf ers Covid, ond gyda chyfleusterau ffrydio ar-lein i'r rhai nad oedd modd iddynt deithio i Abertawe.
Yn draddodiadol mae'r digwyddiadau hyn yn canolbwyntio ar agwedd benodol ar gyfraith morgludiant neu fasnach. Eleni, roedd y ffocws ar ddifrod, rhwymedïau ac adennill.
Gwnaeth y papurau a gyflwynwyd godi nifer fawr o faterion a phroblemau cyfreithiol newydd a phwysig sy'n deillio yn y maes hwn. Yn bresennol eleni roedd y cymysgedd arferol o ymarferwyr cyfreithiol ac academyddion o'r DU, Ewrop ac ymhellach i ffwrdd. Fel bob amser, dewiswyd y siaradwyr yn ofalus, er mwyn darparu cydbwysedd rhwng y byd academaidd ac ymarfer, gan sicrhau bod pob un ar flaen y gad yn ei ddisgyblaeth.
Elfen ragorol o’r digwyddiad eleni oedd y drafodaeth hirfaith a ddilynodd bob sesiwn, rhywbeth a oedd yn dangos cyfranogiad gwych gan gynrychiolwyr wyneb yn wyneb ac yn rhithwir.
Cyflwynwyd y papurau canlynol yn y digwyddiad:
- Deductions from Damages - Net Values (Florian Shacker, Associate, HFW, Llundain)
- Reflective Loss (Yr Athro Andrew Tettenborn, IISTL, Abertawe)
- Mitigation - Is it Relevant when Assessing Damages for Breach of Charterparties? (Simon Croall CF, Quadrant Chambers, Llundain)
- Ship Seller’s Potential Duty of Duty of Care in respect of Buyer’s Dismantling of Vessel (Grace Asemota, Partner, Hannaford Turner LLP, Llundain)
- Judgments in Bitcoin, Currency of Judgment (Josephine Davies, Twenty Essex, Llundain)
- Ship Operators’ Obligations & Liabilities under the EU Emission Reduction Strategy (Yr Athro Lia Athanasiou, Prifysgol Athens, Gwlad Groeg)
- Prospect of Recovering Damages for Delay in Shipping Cases (Andrew Preston, Partner, Preston Turnbull LLP, Llundain)
- Late Payment of Insurance Claims (Peter Macdonald-Eggers CF, 7KBW, Llundain)
- Damages and Other Remedies in the Context of Smart Contracts (Dr Adam Sanitt, Cyfarwyddwr Gwybodaeth, Norton Rose, Llundain)
- IoTs in the Insurance Context (Yr Athro Baris Soyer, IISTL, Abertawe)
- Digital Banking and Emerging Problems (Dr Andrea Migionico, Prifysgol Reading)
- Punitive Damages- A View Across the Pond (Yr Athro Michael Sturley, Prifysgol Texas, UDA)
- Tort Liability for Faults of Third Parties (Yr Athro Simon Baughen, IISTL, Abertawe)
- Claims for Third Party Losses in Carriage of Goods by Sea (Dr Melis Ozdel, UCL, Llundain)
- Specific Remedies in Shipping (Chris Kidd, Partner, Ince, Llundain)
- Anti-Suit Injunctions (Dr Aygun Mammadzada, IISTL, Abertawe)
- Limitation of Liability - New Trends (Yr Athro Cysylltiol Frank Stevens, Prifysgol Erasmus, Rotterdam)
Yn siarad ar ôl y digwyddiad, meddai'r Athro Soyer, Cyfarwyddwr yr IISTL:
"Roeddwn wrth fy modd gyda safon y papurau a'r cyfraniadau gan gynrychiolwyr yn y digwyddiad hwn. Roedd hi'n bwysig wrth ddychwelyd i'r traddodiad o fformat wyneb yn wyneb i gynnig profiad cofiadwy iawn i gyfranogwyr. Rwy'n credu ein bod wedi llwyddo.
Rydym yn hynod ddiolchgar i Informa Law am barhau i'n cefnogi ni drwy noddi'r digwyddiad. Byddwn yn cyhoeddi'r papurau mewn llyfr yn 2023 gydag Informa Law ar ôl rhoi digon o amser i awduron fyfyrio ar yr hyn maent wedi'i ddweud ac ar yr arsylwadau, a'r sylwadau a dderbyniwyd ganddynt yn y digwyddiad".