
Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant (CLC) Cymru wedi derbyn dau grant cyllid gwerth blwyddyn ychwanegol gan Sefydliad Esmée Fairbairn.
Dros y 3 blynedd diwethaf, mae CLC Cymru wedi bod yn llwyddiannus yn datblygu cyfoeth o wybodaeth am y gyfraith yng Nghymru a'i heffaith ar blant – gan gynnwys 120 o dudalennau o wybodaeth, 62 o blogiau dwyieithog a 7 prosiect diddordeb arbennig i blant sy'n ceisio lloches, plant mewn gofal maeth a phlant ag anabledd, ymysg eraill.
Cam nesaf y gwaith datblygu, gyda chymorth y cyllid ychwanegol, fydd atgyfnerthu ymhellach wybodaeth gyfreithiol i blant a gwasanaethau grymuso yng Nghymru. Bydd hefyd yn blaenoriaethu datblygu ymagwedd bartneriaeth at ymgyfreithiad strategol, i wella'r gyfraith i blant difreintiedig a chyflwyno gwasanaeth drwy sefydlu Gwasanaethau Cyngor Cychwynnol.
Meddai Arweinydd Academaidd CLC Cymru, yr Athro Simon Hoffman:
"Rydym ni wrth ein boddau, unwaith eto, i dderbyn cymorth ariannol gan Sefydliad Esmée Fairbairn. Mae'n gyllidwr ardderchog i weithio gydag ef ac rydym ni'n edrych ymlaen at ddatblygu gwaith Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru i wella mynediad plant at y gyfraith, a'u dealltwriaeth ohoni, yng Nghymru gyda'i help."
Rhagor o wybodaeth am waith Canolfan Gyfreithiol y plant Cymru.