YR YSGOLHEIGION HERIAU BYD-EANG

Detholwyd bellach yr Ysgolheigion Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton i ymgymryd â’r MA mewn Heriau Byd-eang: Y Gyfraith, Polisi ac Ymarfer, yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Abertawe. Ariennir y rhaglen feistr hon yn llwyr gan Sky, a’i hamcan yw rhoi’r sgiliau arbenigol ym maes ymchwil ac eiriolaeth arbenigol i’r ysgolheigion mewn ystod o feysydd diffiniedig sydd o bwys aruthrol yn y byd sydd ohoni. 

Fel rhan o’r rhaglen hon, bydd gan yr ysgolheigion ystod o gyfleoedd, gan gynnwys y cyfle i weithio gydag unigolion allweddol yn eu meysydd arbenigedd yn ogystal ag ymgymryd â lleoliadau mewn sefydliadau perthnasol, a hynny er mwyn eu datblygu’n unigolion unigryw a all weddnewid y gyfraith a byd polisi.

Mae’r byd o’n hamgylch ni’n newid, felly er mwyn mynd i’r afael â’r prif heriau cymdeithasol megis argyfwng yr hinsawdd, diogelwch ac anghydraddoldeb, mae angen myfyrdod ac arweinyddiaeth arloesol yn ogystal ag ymrwymiad i gydweithredu rhyngwladol, sef amcan gwirioneddol y Rhaglen Heriau Byd-eang.

Dewch i wybod mwy am gefndir, gwaith ac ymchwil pob un o’n hysgolheigion.

Yr Ysgolheigion Heriau Byd-eang 2022

YR YSGOLHEIGION HERIAU BYD-EANG 2021

YR YSGOLHEIGION HERIAU BYD-EANG 2020