TechCyfreithiol Cymru
Mae'r proffesiwn cyfreithiol yn newid. byddwch yn rhan o'r chwyldro.
O ddeallusrwydd artiffisial a blockchain i ddatrys anghydfod ar-lein a llwyfannau digidol i wella mynediad at gyfiawnder, mae technoleg yn trawsffurfio natur darparu gwasanaethau cyfreithiol.
Mae'r sector “TechCyfreithiol” newydd hefyd yn cynnig cyfleoedd sylweddol i fusnesau newydd, mentergarwch mewn ymarferiad y gyfraith a datblygu clwstwr ymchwil a datblygu techcyfreithiol yng nghymru.
Nod TechCyfreithiol Cymru yw dod â rhwydwaith ynghyd o ymarferwyr cyfreithiol, cwmnïau technoleg, darparwyr addysg a sefydliadau eraill y mae ganddynt ddiddordeb mewn cymhwysiad ac effaith technoleg yn ymarferiad y gyfraith. bydd yn fforwm i rannu newyddion, tueddiadau a chyfleoedd ar draws y sector, a bwriada gynnal digwyddiadau rhwydweithio, gweithdai a sesiynau hacathon.
Gweithredir TechCyfreithiol Cymru gan y Ganolfan ar gyfer Arloesi ac Entrepreneuriaeth yn y Gyfraith yng Ngholeg y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth Cymdeithas y Cyfreithwyr a Chanolfan Economi Ddigidol CHERISH.