Cymrawd Gwadd
Mae Mr Måns Jacobsson, a fu gynt yn Gyfarwyddwr y Cronfeydd Iawndal Llygredd Olew Rhyngwladol (1985-2006) ac yn Llywydd Adran Llys Apêl Stockholm, yn Gymrawd Gwadd yn y Sefydliad. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Princeton (UDA), bu'n astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Lund yn Sweden, gan raddio ym 1964. Yn 2010, dyfarnwyd Medal Aur Brenin Sweden iddo am gyflawniadau sylweddol ym maes cyfraith forwrol a llongau.
Bu Måns Jacobsson yn farnwr mewn llysoedd rhanbarthol a llysoedd apeliadol yn Sweden rhwng 1964 a 1970. Yna, bu'n gweithio fel ymgynghorydd cyfreithiol yn Adran Cyfraith Sifil Ryngwladol yng Ngweinyddiaeth Cyfiawnder Sweden rhwng 1970 a 1981 a bu'n Bennaeth yr Adran honno rhwng 1982 a 1984. Yn ystod ei gyfnod yn y Weinyddiaeth, lluniodd ddeddfwriaeth ar bynciau amrywiol, ym maes cyfraith sifil a thrafnidiaeth yn bennaf, a chynrychiolodd Sweden mewn trafodaethau mewn nifer o sefydliadau rhynglywodraethol. Mae ganddo brofiad fel cyflafareddwr hefyd.
Yn 2015, cyhoeddodd lyfr (yn Swedeg) ar gyfundrefnau atebolrwydd rhyngwladol ym maes cludo sylweddau niweidiol i'r amgylchedd ar y môr ac mae hefyd wedi cyhoeddi llyfr (ar y cyd â dau gyd-awdur) ar gyfraith patentau. Mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ar gyfraith niwclear, cyfraith forwrol, cyfraith camwedd a chyfraith cytuniadau. Mae'n aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Forwrol y Byd a bu'n aelod o Gyngor Gweithredol y Comité Maritime International rhwng 2007 a 2014. Mae'n Athro Gwadd ym Mhrifysgol Forwrol y byd ac ym Mhrifysgolion Morwrol Dalian a Shanghai (Gweriniaeth y Bobl Tsieina) ac mae'n Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Nottingham. Mae'n aelod gohebu Academia Nacional de Derecho y Ciencias Sociales yr Ariannin ac yn Aelod Cysylltiol Academaidd o Siambrau Quadrant.
I weld hanes ymchwil Mr Jacobsson, cliciwch yma
I fynd i dudalen we bersonol Mr Jacobsson, cliciwch yma