Yr Athro George Leloudas

George Leloudas LQ

BCL (Athens), LLM (Bryste, McGill), PhD (Trinity Hall, Caergrawnt), Cyfreithiwr (Cymru a Lloegr)

Ymunodd Dr Leloudas â Phrifysgol Abertawe yn 2011. Graddiodd o Brifysgol Genedlaethol a Kapodistrias Athens ac mae ganddo raddau LLM mewn Cyfraith Fasnachol gan Brifysgol Bryste ac mewn Cyfraith Hedfan a Gofod gan Sefydliad Cyfraith Hedfan a Gofod Prifysgol McGill. Cwblhaodd ei radd PhD mewn cyfraith hedfan â phwyslais ar atebolrwydd ac yswiriant yn Neuadd y Drindod, Prifysgol Caergrawnt yn 2009.

Cyn ymuno â’r Sefydliad, bu Dr Leloudas yn gyfreithiwr gyda Gates and Partners yn Llundain am sawl blwyddyn lle bu'n cynghori ar atebolrwydd awyrofod a materion rheoleiddio cwmnïoedd hedfan. Bu hefyd yn gynorthwyydd i gwnsler cyfreithiol Undeb Rhyngwladol yr Yswirwyr Hedfan (IUAI), gan ddarparu cymorth mewn perthynas â disodli Confensiwn Rhufain ar Ddifrod Arwyneb.  Mae Dr Leloudas yn hyfforddwr yn Sefydliad Hyfforddiant a Datblygiad y Gymdeithas Trafnidiaeth Hedfan Ryngwladol (IATA) lle mae'n addysgu cyfraith hedfan ryngwladol i gyfreithwyr ac ymarferwyr cyfreithiol proffesiynol, cyfraith yswiriant hedfan ac atebolrwydd cargo awyrennau.

Prif ddiddordeb ymchwil George yw cludo teithwyr a nwyddau mewn awyren ond mae ei ddiddordebau'n ymestyn i gludiant amlfodd, cyfraith yswiriant a rheoleiddio systemau trafnidiaeth awtonomaidd. Prif ddiddordeb ymchwil George yw cludo teithwyr a nwyddau mewn awyren ond mae ei ddiddordebau'n ymestyn i gludiant amlfodd, cyfraith yswiriant a rheoleiddio systemau trafnidiaeth awtonomaidd. Mae ef wedi cyhoeddi dau fonograff, yr un cyntaf ar Risg ac Atebolrwydd mewn Cyfraith Awyr a'r ail ar Yswiriant Cargo Awyr gyda'r Athro Malcolm Clarke o Brifysgol Caergrawnt. Mae hefyd yn Olygydd Cyffredinol y cyhoeddiad cyfraith awyr, Shawcross and Beaumont on Air Law, a disgwylir i'w lyfr newydd (a olygwyd) ar Gonfensiwn Montreal 1999 gael ei gyhoeddi ar ddiwedd 2023.