Mr Fabien Lerede
DESS (PARIS), LLM (UCL) CYMRAWD GWADD
Mae Fabien wedi cymhwyso i weithio fel cyfreithiwr yn Ffrainc ac yng Nghymru a Lloegr. Dechreuodd ei yrfa ym Mar Paris, gan arbenigo yng nghyfraith yswiriant cyn ymuno â chlwb Standard P&I, un o'r clybiau P&I (Diogelwch ac Yswiriant) mwyaf blaenllaw sy'n arbenigo yn y sector alltraeth, yn 2007. Ar hyn o bryd, Fabien yw pennaeth y tîm hawliadau alltraeth sydd wedi ymdrin â rhai digwyddiadau cymhleth a phroffil uchel.
Bu Fabien yn un o aelodau is-bwyllgor y BIMCO a luniodd y ffurflen 'Windtime Charterparty' yn 2013 a luniwyd yn benodol ar gyfer y sector ffermydd gwynt ar y môr ac mae wedi siarad yn rheolaidd ar gyrsiau hyfforddiant amrywiol a drefnwyd gan yr un sefydliad. Hefyd, mae wedi cyfrannu'n ddiweddar at Offshore Contracts and Liabilities (Informa, 2015).