Sebastian Agustin Trigub (Yr Ariannin - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)
Ymgymerodd Sebastian ag interniaeth â Navarone S/A, cwmni o Wlad Groeg sy’n berchen ar dros 35 o swmpgludwyr ac sy’n masnachu ledled y byd. Fel rhan o’i interniaeth, rhannodd ei amser rhwng adrannau gweithrediadau a hawliadau ac yswiriant y cwmni. Yn yr adran gweithrediadau, cafodd brofiad ymarferol o’r ffordd y mae’r cwmni yn gweithredu ei longau, h.y. derbyn a phrosesu’r cyfarwyddiadau cyflogi/teithio, eu trafod gyda’r meistri, sut mae’n olrhain y llongau a’r ddynameg rhwng y gwahanol adrannau, er enghraifft, y Criw, yr Adran Dechnegol, yr Adran Gyflenwi. Yn ystod ei gyfnod fel intern yn yr adran hawliadau ac yswiriant, cafodd y cyfle i weld sut y caiff hawliadau eu trafod yn fewnol, yn ogystal â sut y cânt eu trafod gyda’r yswirwyr a thrydydd partïon. Hefyd, arsylwodd ar y broses adnewyddu ar gyfer polisïau H&M a diogelu ac indemnio, gan gynnwys yr adolygiad o gofnodion y cwmni a’i negodiadau â broceriaid/yswirwyr. Roedd y lleoliad hwn yn gyffrous iawn i Sebastian gan gynnig cipolwg gwerthfawr iddo ar y ffordd y mae cwmni morio yn gweithredu, a fydd yn sicr yn ddefnyddiol iddo yn ei yrfa yn y dyfodol yn y sector morio.