Ince & Co
Cwmni cyfraith fasnachol ryngwladol yw Ince & Co sy'n gwasanaethu ei sail cleientiaid byd-eang o swyddfeydd ledled Asia, Ewrop a'r Dwyrain Canol. Mae gan Ysgol y Gyfraith gysylltiadau agos ag Ince & Co ac mae'r cwmni yn cynnig cyfleoedd interniaeth i'n myfyrwyr (yn enwedig y rheini sydd wedi cofrestru ar ein graddau LLM mewn cyfraith forol, masnach, IP, masnachol ac olew a nwy) bob blwyddyn. Yn ddiweddar, treuliodd dau o'n myfyrwyr ran o'u gwyliau haf yn gweithio yn swyddfa Ince & Co yn Llundain, o dan oruchwyliaeth Ted Graham (Partner).

Hao WU (Tsieina)
Roedd Hao, a astudiodd ei gradd LLB ym Mhrifysgol Forol Shanghai, yn intern yn Ince & Co yn 2018 ac roedd yn brofiad defnyddiol iawn iddi. Penderfynodd ddod i Abertawe gan ei bod wedi clywed adborth cadarnhaol gan amrywiol gyflogwyr yn Tsieina a'i bod o'r farn bod ein gradd LLM yn gwrs ymarferol iawn, sy'n paratoi myfyrwyr yn y ffordd orau bosibl ar gyfer y farchnad swyddi.

Saghun Sudhir (India)
“Mwynheais fy mhrofiad gwaith ardderchog yn Ince & Co yn fawr. Gan weithio'n agos â Ted Graham, Partner yn Ince & Co., llwyddais i feithrin dealltwriaeth amhrisiadwy o'r ffordd y mae cwmni cyfreithiol blaenllaw yn gweithredu. Yn ystod fy nghyfnod yn Ince & Co, rhoddais gymorth i'r tîm morio ar y lan a oedd yn ymdrin â hawliad am lwyth a'r posibilrwydd o'i hadfer o dan y Cytundeb Rhyng-Glwb. Cefais gyfle hefyd i fynychu digwyddiad i Weithwyr Morol Proffesiynol Ifanc, sef 'Sunshine & Shipping Seminar: An update on Shipping and International trade law’ yn 20, Essex Street. Roedd yn gyfle rhwydweithio ardderchog i gyfarfod â gweithwyr proffesiynol o wahanol adrannau o’r sector morio. Rwy’n ddiolchgar i’r Tîm Morio a Masnach ym Mhrifysgol Abertawe am gynnig y cyfle hwn i mi. Yn sicr, bydd gennyf atgofion melys ac rwyf wedi creu cysylltiadau proffil uchel ac wedi dysgu gwersi pwysig a fydd yn fy helpu i ddatblygu fel ymarferydd”.
Ymarfer Cyfreithiol Bloomfield

Lemea Wayih (Nigeria)
Derbyniodd Lemea wobr agoriadol Gwobr Ymarfer Cyfreithiol Bloomfield yn 2019 a roddodd gyfle unigryw iddo weithio fel intern ym Mhractis Cyfreithiol Bloomfield Law yn Lagos (Nigeria). Galluogodd y profiad hwn ar yr interniaeth iddo ganfod mwy am agweddau ymarferol ar faterion morwrol a llongau yn ei awdurdodaeth gartref. Roedd yr holl brofiad yn wobrwyol iawn iddo. Mae’n ddiolchgar i Ysgol y Gyfraith yn Abertawe a Phractis Cyfreithiol Bloomfield am y profiad dysgu proffesiynol a phersonol ardderchog hwn a hefyd i Mr Adedoyin Afun (Partner) am fod mor groesawgar.
Standard P&I Club

Bob blwyddyn, mae sawl un o’n myfyrwyr yn cael cyfle i weithio fel interniaid mewn cwmnïau yswiriant a chlybiau diogelu ac indemnio (P&I). Mae Standard Club yn un o’r clybiau hynny ac rydym yn falch o’n cysylltiad â’r clwb hwn, yn enwedig gan ei fod wedi cynnig interniaethau dros yr haf i sawl un o’n myfyrwyr.
Félix Cahagne (Ffrainc - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)
Bu’r interniaeth yn Standard P&I Club yn brofiad eithriadol i Félix mewn sawl ffordd. Mewn dim ond wythnos, cafodd gyfle i feithrin gwerthfawrogiad o’r profiad o weithio mewn Clwb Diogelu ac Indemnio. Roedd yr interniaeth yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gynnwys mynychu nifer o gyflwyniadau ar wahanol faterion diogelu ac indemnio, gweithdai, yn ogystal â chysgodi gwarantwyr a rheolwyr hawliadau. Mwynhaodd Félix ei gyfnod yn Standard P&I Club yn fawr, gan iddo feithrin profiad uniongyrchol o waith gwarantu a hawliadau o ddydd i ddydd. Cafodd Félix y cyfle i gyfarfod â llawer o bobl ddiddorol ac i sgwrsio â’r bobl hynny am y farchnad morio ac yswiriant dros giniawau a drefnwyd at y diben hwnnw.
Theodora Kostara (Gwlad Groeg - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)
Roedd y cyfle hwn i ymgymryd ag interniaeth hefyd yn brofiad gwerthfawr iawn i Theodora. Cafodd yr wythnos i interniaid ei threfnu’n dda iawn gan Standard P&I Club er mwyn sicrhau y câi’r interniaid brofiad ymarferol o’r ffordd y mae Clwb Diogelu ac Indemnio (ac Yswiriant Morol yn gyffredinol) yn gweithredu go iawn. I’r perwyl hwnnw, aeth Theodora i gyflwyniadau gan bob un o adrannau’r Clwb (Ymdrin â Hawliadau, Gwarantu, Syndicetiau), sesiynau mentora, a chafodd ei thywys o amgylch Adeilad Lloyd’s a chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai diddorol. At hynny, ar ddiwrnod olaf yr interniaeth, fe’i gwahoddwyd i wneud cyflwyniad ar bwnc a oedd yn ymwneud â diogelu ac indemnio. Roedd y cyfle hwn yn gymhelliant iddi hi ac yn ffordd i’r Clwb Diogelu ac Indemnio asesu ei chynnydd yn ystod yr interniaeth. Nododd Theodora fod ei phrofiad ar yr interniaeth wedi rhoi gwell gwerthfawrogiad iddi o sut y gall astudio LLM mewn Prifysgol ag enw da iddi fel Abertawe fod o fudd i’ch gyrfa broffesiynol.
Benthe Menzfeld (Yr Almaen - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)
Ymgymerodd Benthe ag interniaeth â Standard P&I Club/Charles Taylor yn swyddfeydd y Clwb yn Llundain. Rhoddodd yr interniaeth, a drefnwyd gan yr Adran Cyfraith Morio a Masnach, ddealltwriaeth ymarferol i Benthe o’r busnes diogelu ac indemnio drwy sawl cyflwyniad ar wahanol agweddau ar waith diogelu ac indemnio, gweithdai ac oriau mentora gyda chyflogeion o’r Adrannau Gwarantu a Hawliadau. Gwnaeth Benthe ddefnydd da iawn o’r modiwlau a astudiwyd ganddi yn ystod ei gradd LLM, h.y. yswiriant morol, cyfraith morlys a chludo nwyddau. At hynny, er bod yr amgylchedd gwaith ardderchog a’r cyfle a gynigiwyd iddi i wneud cyflwyniad yn heriol, roedd yr interniaeth yn brofiad hynod werthfawr. Yn sicr, mae’r cyfle hwn wedi ei helpu i werthfawrogi’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r gwaith diogelu ac indemnio ac i ddeall beth sydd o’i blaen.
Min Shen (Tsieina - LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol)
Yn ystod yr interniaeth hon, llwyddodd Min i wella ei dealltwriaeth o Glybiau Diogelu ac Indemnio a sut y maent yn ymgysylltu â’r byd cyfreithiol. Roedd yr interniaeth yn cynnwys nifer o weithgareddau megis darlithoedd a gweithdai, a ddatblygodd y wybodaeth yr oedd Min eisoes wedi’i meithrin drwy gydol y cwrs LLM am amrywiaeth eang o bynciau sy’n ymwneud â gwarantu, hawliadau ac ati. Roedd pob sesiwn yn ymarferol ac yn ddefnyddiol iawn. Yn ogystal, trefnodd y Clwb Diogelu ac Indemnio nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol â chyflogeion o wahanol syndicetiau; yr oedd pob un ohonynt yn fwy na pharod i rannu eu profiadau ac i roi cyngor iddi ar ei gyrfa yn y dyfodol. Hefyd, aeth Min i sesiynau mentora gyda mentoriaid o wahanol syndicetiau. Yn ystod y sesiynau hyn, meithrinodd ddealltwriaeth werthfawr o waith beunyddiol pob adran.
Clwb P&I Tsieina

Mae’r IISTL yn mwynhau perthynas agos â Chlwb P&I Tsieina, lle mae’r Athrawon Soyer a Tettenborn wedi cyflwyno amryw o sesiynau hyfforddi. Mae’r Clwb yn cynnig cyfleoedd interniaeth i fyfyrwyr Abertawe. Cafodd 3 o’n myfyrwyr y cyfle hwn yn 2019.
Mae Yaxin Li wedi graddio o Brifysgol Forwrol Shanghai, a chwblhaodd ei LLM yn Abertawe. Yn ystod ei gwyliau dros yr haf, cynigiwyd interniaeth iddi gyda Chlwb P&I Tsieina yn Shanghai yn dilyn proses gyfweld, lle bu’n gweithio yn yr Adran Hawliadau a’r Adran FDD&TCL ar gyfer y Clwb. Galluogodd yr interniaeth iddi ennill gwybodaeth a chael mewnwelediad i’r broses trafod hawliadau.
Rhaglen Bwyd y Byd
Wedi’i denu gan yr enw da sydd gan Brifysgol Abertawe yn y maes, yn 2015 sefydlodd Adran Gyfreithiol Rhaglen Bwyd y Byd (WFP) y Cenhedloedd Unedig, sef sefydliad dyngarol mwyaf y byd sy’n brwydro yn erbyn newyn ledled y byd, interniaeth tri mis gyda ni a gynigiodd y cyfle i fyfyriwr LLM o Abertawe dreulio 3 mis fel intern yn Rhufain. Hyd yn hyn, mae tri o’n myfyrwyr wedi manteisio ar y cyfle hwn, a gynigir unwaith y flwyddyn:
Francisco Camps Bas (Sbaen) (2016)
“Yn ystod fy interniaeth, cefais y cyfle i gymhwyso’r hyn yr oeddwn wedi’i ddysgu fel rhan o’r cwrs LLM drwy gynnal gwaith ymchwil i faterion cyfreithiol sy’n gysylltiedig â llogi llongau, morio, hedfan, trafnidiaeth ar y tir, yswiriant, caffael, cyfraith fasnachol a chyfraith gontractio. Helpais hefyd i ddrafftio amrywiaeth o ddogfennau cyfreithiol, gan gynnwys llawlyfrau, cytundebau, contractau ac i astudio cwestiynau cyfreithiol. Yn olaf, cymerais ran yn y gwaith o baratoi, olrhain a negodi hawliadau. Rwy’n ddiolchgar i’r Ysgol am drefnu’r interniaeth werthfawr hon i mi.”

Aikaterini Bali (Gwlad Groeg) (2017)
Fel rhan o’r interniaeth hon, cymerodd Aikaterini ran mewn amrywiaeth eang o faterion cyfreithiol a oedd yn ymwneud â chadwyn gyflenwi Rhaglen Bwyd y Byd: prynu symiau mawr o fwyd (grawniau, grawnfwydydd, nwyddau, siwgr, olew llysiau, maeth arbenigol) o dai masnachu rhyngwladol neu drwy farchnadoedd rhanbarthol, llogi llongau (neu archebu cynwysyddion ar longau) i gludo’r bwyd i’r gwledydd a fyddai’n ei dderbyn, trefnu i’w gludo dros y tir, a threfnu i’w storio, ei ddosbarthu a’r trefniadau cludo mewnol. Gan sôn am ei phrofiad, dywedodd Ms Bali: “Mae’r interniaeth gyda Rhaglen Bwyd y Byd yn brofiad unigryw; yn wir, mae’n gyfle ardderchog i feithrin profiad cyfreithiol gwerthfawr yn y maes dyngarol ac i gymhwyso fy ngwybodaeth ddamcaniaethol am gyfraith forol.”

Katerina Kokkala (2018)
Bu fy interniaeth 3 mis gyda Rhaglen Bwyd y Byd yn brofiad anhygoel! Cefais gyfle i ymuno â’r Gangen Cyfraith Trafnidiaeth Forol ac Yswiriant ac i weithio’n agos â thîm o gydweithwyr diddorol, ymroddedig a pharod eu cymwynas. Yn ystod fy interniaeth, cefais y cyfle i gymryd rhan yng ngwahanol gamau’r gadwyn gyflenwi, o’r contract gwerthu i gludo a dosbarthu nwyddau ac i weld sut mae fy ngwybodaeth ddamcaniaethol yn berthnasol yn y byd go iawn. Fodd bynnag, yn anad dim, bu’n bleser drwy fy ngwaith i allu helpu pobl mewn angen a hyrwyddo achos da Rhaglen Bwyd y Byd. Mae’r syniad y gall eich gwaith wella bywydau beunyddiol miloedd o bobl yn gymhelliant ardderchog i chi wneud eich gorau.”

Nadia El Maloui (2019)
Astudiodd Nadia ei gradd BA ym Mhrifysgol Lorraine (Ffrainc) gan gofrestru ar ein Rhaglen LLM mewn Cyfraith Olew/Nwy ac Ynni Adnewyddadwy yn 2018. Yn y gorffennol, mae Nadia wedi cael interniaethau gyda chyrff CU amrywiol ac mae’n gallu siarad Ffrangeg, Saesneg ac Arabeg yn rhugl. Mae wedi cael cynnig interniaeth gyda Rhaglen Bwyd y Byd o 1 Gorffennaf 2019 i fynd i’r afael â chontractau gwerthu rhyngwladol a chyfathrebu mewn rhai gweldydd y mae rhyfel cartref yn effeithio arnynt.
Y Sefydliad Morol Rhyngwladol (IMO)

Mr Qi gydag Ysgrifennydd Cyffredinol yr IMO, Mr Kitack Lim
Derbyniwyd dau o’n myfyrwyr LLM mewn Cyfraith Forol, Jiancuo Qi o Dsieina a Chapten Philip Corsano o Unol Daleithiau America, fel interniaid gan yr IMO yn dilyn proses ddethol drylwyr, a gwnaethant dreulio sawl wythnos ym mhencadlys y sefydliad yn Llundain. Cafodd y ddau fyfyriwr y cyfle i arsylwi ar gyfarfodydd 7fed sesiwn y Pwyllgor Diogelu’r Amgylchedd Morol a 67ain sesiwn y Pwyllgor Cydweithredu Technegol. Gan sôn am ei brofiad yn yr IMO, dywedodd Mr Qi: “Bu’r interniaeth yn IMO yn brofiad da iawn a oedd o fudd i mi mewn sawl ffordd, gan gynnwys rhai ffyrdd nad oeddwn wedi’u rhagweld. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr help, yr anogaeth a’r cymorth caredig a gefais gan y staff wrth i mi astudio ym Mhrifysgol Abertawe.”
Roedd Capten Corsano o’r un farn: “Mynychais sesiynau technegol y Pwyllgor Diogelwch Morol (MSC) llawn, a gwnaeth lefelau dwfn yr arbenigedd yn y diwydiant a oedd gan yr IMO a’i gynghorwyr gryn argraff arnaf. Gwnaeth pennaeth y Pwyllgor, Mrs Sandra Allnutt, un o blith dim ond nifer fach o fenywod sy’n gweithio yn y diwydiant ac sydd wedi cyflawni statws uwch, argraff arbennig arnaf.
Daniel Adriel Septiano (Indonesia - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)

Ymgymerodd Daniel ag interniaeth â Marsh Marine yn Llundain, y brocer yswiriant mwyaf yn y byd, â phresenoldeb amlwg iawn yn y farchnad yswiriant yn Llundain. Fe’i cyflwynwyd i Marsh am y tro cyntaf pan aeth i seminar ar rôl gyffredinol broceriaid yswiriant yn swyddfeydd y cwmni yn Llundain. Trefnwyd y seminar gan un o Gydgysylltwyr Cyflogadwyedd y rhaglen LLM, Dr Leloudas, a wnaeth ddefnydd da o’i gysylltiadau yn y farchnad. Yn ystod ei interniaeth, arsylwodd Daniel ar waith broceriaid yn swyddfeydd Marsh. Roedd pawb yn Marsh yn gyfeillgar iawn ac yn awyddus i ddangos iddo sut beth oedd bod yn frocer ac i ateb unrhyw gwestiynau a oedd ganddo. Cafodd Daniel hefyd brofiad ymarferol o’r ffordd mae marchnad Lloyd’s yn gweithredu. Roedd y cyfle arbennig hwn am interniaeth yn werthfawr iawn i Daniel, gan roi’r cyfle iddo gael cipolwg ar froceriaeth yswiriant ar waith.