Myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n cipio gwobr o fri

Ddydd Iau 6 Mehefin, enwyd Andrea Garvey, sy'n fyfyriwr o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn enillydd 'Gwobr Newid Bywyd a Dilyniant' yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Cynhelir Gwobrau Ysbrydoli! bob blwyddyn cyn Wythnos Addysg Oedolion, a'r Sefydliad Dysgu a Gwaith sy'n eu cydlynu gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae'r gwobrau'n cydnabod unigolion sydd wedi dangos brwdfrydedd, ymrwymiad ac ysgogiad rhagorol i wella eu hunain, eu cymuned neu eu gweithle drwy ddysgu.

Cipiodd Andrea'r Wobr Newid Bywyd a Dilyniant ac roedd hi'n un o'r 12 o enillwyr a gafodd eu cydnabod mewn seremoni yng Ngwesty Exchange yng Nghaerdydd neithiwr.

Roedd y fam sengl i dri o blant o Bort Talbot yn dioddef o byliau difrifol o orbryder, iselder a cholled anodd wrth iddi astudio'n amser llawn i ddilyn ei huchelgais ers yn blentyn o fod yn gyfreithiwr. Er gwaethaf pob disgwyl, cymhwysodd gyda gradd yn y gyfraith yn 51 mlwydd oed – gan raddio gyda LLB yn y Gyfraith yn 2018, 25 mlynedd ar ôl gadael yr ysgol heb yr un cymhwyster.

Dywedodd Andrea wrth siarad am ba mor benderfynol oedd hi i astudio'r gyfraith: "O oedran ifanc iawn, dim ond un freuddwyd oedd gennyf sef astudio'r gyfraith. Nid oedd amgylchiadau o'm plaid i, ac ar ôl i mi gwympo'n feichiog yn 16 oed ro'n i'n gwybod bod yn rhaid imi roi popeth o'r neilltu i fod y fam orau y gallwn fod, ac y byddai fy mreuddwyd yn gorfod aros.

Andrea Garvey

"Gwnes i barhau i ddarllen yr atodiadau am y gyfraith yn y papurau newyddion ac roedd gennyf silffoedd llawn llyfrau cyfreithiol. Byddwn i'n aros ar ddihun gyda'r nos yn darllen am gamweddau cyfiawnder, ac oherwydd mod i'n credu'n gryf ni chyll y gwir ei bwysau, ni aeth fy angerdd byth yn angof.
"Unwaith y collais fy swydd, ro'n i'n gwybod mai dyma fy nghyfle i, ac o'r diwedd cyflwynais gais i astudio'r gyfraith – roedd yn meddwl y byd imi."

Goresgynnodd Andrea anawsterau aruthrol yn ystod ei hastudiaethau. Roedd cydbwyso ei theulu a'i hymrwymiadau i'w thri o blant gartref, gwneud ebyrth ariannol, ac ymdrin â phroblemau parhaus o ran gorbryder ac iselder, ochr yn ochr â'i hastudiaethau yn heriol. Fodd bynnag, darganfod bod gan ei chwaer Kay ganser angheuol oedd y gwaethaf.

Daeth Andrea'n brif ofalwr i'w chwaer. Mae hi'n cofio gyrru ei chwaer i sesiynau cemotherapi yn yr ysbyty gerllaw, a galw heibio dosbarthiadau rhwng sesiynau, cyn rhuthro yn ôl i'r ysbyty.

"Dyma adeg anoddaf fy mywyd i", meddai Andrea.
"Rhai nosweithiau ni fyddwn i'n agor fy llyfrau tan ar ôl 11pm ar ôl gofalu am Kay. Doedd hi ddim yn anghyffredin imi fynd i'r gwely am 4am. Ac ro'n i mewn trallod yn dilyn marwolaeth Kay fis Chwefror y llynedd."

Cafodd Andrea gefnogaeth gan ei darlithwyr a chan yr Academi Iechyd a Lles. Er gwaethaf awgrymiadau y gallai ohirio ei hastudiaethau am flwyddyn a chymryd amser i alaru, dewisodd Andrea barhau â'i hastudiaethau.

"Roedd fy nhiwtoriaid yn gymwynasgar iawn a gwnaethant awgrymu fy mod i'n gohirio am flwyddyn, ond ro'n i'n gwybod na fyddwn i byth yn dychwelyd pe bawn i'n rhoi'r ffidl yn y to. Felly gwnes i barhau, yn benderfynol o wneud Kay yn falch ohonof."

Dychwelodd Andrea i'w dosbarthiadau a dyfalbarhau drwy ei phoen. Dechreuodd weithio ar y Prosiect Camwedd Cyfiawnder gyda'r Athro Richard Owen. Yn sgîl ei gwaith ar y prosiect, fe'i henwebwyd am wobr 'Y Cyfraniad Gorau gan Fyfyriwr Unigol' yng Ngwobrau  LawWorks and Attorney General’s Student Pro Bono 2018.Arweiniodd ei gwaith ymchwil at lwybrau newydd i'w hymchwilio mewn achos. Fe'i gwahoddwyd i ymweld â ThÅ·'r Cyffredin a chyflwynodd ei chanfyddiadau i banel elît o feirniad, cyfreithwyr, bargyfreithwyr, ymarferwyr ac aelodau o'r heddlu.

"Roedd gweithio ar y Prosiect Camwedd Cyfiawnder yn geidwad i mi, dyma'r un maes yn y gyfraith sydd wedi fy hudo fwyaf. A dyma'r flwyddyn gyntaf i'r modiwl gael ei gynnig yn y Brifysgol. Ro'n i'n gwybod mai ffawd ydoedd.
"Ni wnaeth y gwaith wella fy ngorbryder na’m hiselder, ond heb os, gwnaeth fy helpu i ganolbwyntio am gyfnodau hir o amser, ac mae hyn wedi gwneud imi deimlo'n gryfach bob dydd."

Dywed Andrea, a enwebwyd gan ei merch, Lucie Collins, ei bod hi eisiau i'w gwobr Ysbrydoli! ddangos i gyflogwyr bod dysgwyr aeddfed yn aml yn herio pob disgwyl yn aruthrol i gyflawni wrth ddysgu.

"Mae dysgu wedi newid fy mywyd. Yn aml iawn mae gan fyfyrwyr aeddfed fwy o broblemau i'w goresgyn megis ymrwymiadau teuluol, problemau iechyd a diffyg cymwysterau blaenorol gan amlaf," dywedodd.
"Mae'n benderfyniad dewr iawn dechrau dysgu unwaith eto. Mae angen i gyflogwyr bellach roi cyfle i ni, rydym ni'n haeddu hynny."

Meddai David Hagendyk, Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru:

"Rydym ni'n deall yr effaith y gall dychwelyd i ddysgu ei chael ar wneud pobl yn fwy iach a hapus nawr yn fwy nag erioed, yn ogystal â gwella rhagolygon ar gyfer eu teuluoedd ac yn y gwaith.
"Rydym yn gobeithio y bydd y storïau hyn yn ysbrydoli oedolion o bob cwr o Gymru i gymryd y cam cyntaf tuag at ddychwelyd i ddysgu. Ceir cyfleoedd i ddysgu ac mae gweithwyr proffesiynol yn barod i'ch helpu chi i fanteisio ar y cymorth sydd ei angen arnoch. Felly os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli, nawr yw'r amser i weithredu a dechrau dysgu unwaith eto."

Nod nesaf Andrea yw graddio gyda MA mewn Cyfiawnder Troseddol Cymhwysol a Throseddeg – ac mae hi hanner ffordd drwy ei hastudiaethau erbyn hyn. Yn y dyfodol mae hi'n gobeithio agor clinig y gyfraith ym Mhort Talbot a chynnig amgylchedd ymarferol i fyfyrwyr eraill gael profiad eiriolaeth yn ogystal â chynnig cymorth pro bono i'r rhai hynny nad ydynt bellach yn gallu cael mynediad at gymorth cyfreithiol.