Mae Joe, myfyriwr doethuriaeth yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, wedi ei ddewis i dderbyn y wobr ar gyfer blwyddyn academaidd 2017/18.
Ariennir Gwobr Myfyriwr Penblwydd Ede a Ravenscroft gan gyfraniadau gan y cwmni, gyda gwobrau o £250 yn cael eu dyfarnu i wobrwyo myfyrwyr am eu gwaith arbennig. Gofynnwyd i staff a myfyrwyr enwebu myfyrwyr, ynghyd â datganiad cefnogol yn manylu ar yr effaith gadarnhaol a gawsant ar eu cymheiriad a’r Brifysgol yn ehangach.
Mae’r holl fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd gyda’r Brifysgol yn gymwys i gael eu henwebu ar gyfer y wobr, sydd yn gydnabyddiaeth o’u ‘cyfraniad arwyddocaol i fywyd myfyrwyr y tu hwnt i astudiaethau arferol’. Gallai myfyrwyr gael eu henwebu am amryw o resymau, sy’n cynnwys:
- Gwella bodlonrwydd myfyrwyr
- Gweithio yn y gymuned
- Gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywyd prifysgol
Enwebwyd Joe gan Dr Caroline Jones, a ddywedodd yn ei henwebiad:
“Mae Joe Janes wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd myfyrwyr drwy ei rôl fel Cynrychiolydd Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig ar gyfer Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Bu Joe yn gynrychiolydd gweithgar a brwdfrydig ar gyfer ei gyd-fyfyrwyr; gan gynrychioli eu lleisiau, anghenion a’u diddordebau – yn unigol ac ar y cyd o fewn yr Ysgol, a hefyd ar lefel y Brifysgol drwy ei ymgysylltiad ymrwymedig gyda’r Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig.
“Bu Joe yn llysgennad gwych i’r gymuned PGR mewn Troseddeg a’r Gyfraith – yn gyfeillgar ac agored, proffesiynol a chwrtais ac yn llwyr ymrwymedig a gweithgar”
Joe yn derbyn ei wobr gan Dr Caroline Jones
Mewn ymateb i dderbyn y wobr, dywedodd Joe:
““Mae wir yn bleser derbyn y wobr hon. Ni allaf ddiolch digon i’r tîm ymchwil ôl-radd a gydweithiodd â mi. Heb Dr. Caroline Jones, Mr. Alun Morgan a fy nghyd-fyfyrwyr, ni fuasai hyn yn bosib.
“The work we do as a team has created a brilliant atmosphere to study and a postgraduate community within the college which really is second to none. I look forward to continuing to support my peers as the postgraduate representative for the Hillary Rodham Clinton School of Law and I am proud to be the voice that links the staff student body together”.
- Dydd Mercher 13 Mawrth 2019 12.00 GMT
- Dydd Mercher 13 Mawrth 2019 12.24 GMT
- Dean Richards