RHIANNON - MYFYRWRAIG Y GYFRAITH
Pam dewisoch chi astudio yn Abertawe?
Cefais i fy nenu yn y lle cyntaf i ddewis Abertawe gan fod y staff roeddwn i wedi cwrdd â nhw o Ysgol y Gyfraith yn groesawgar iawn ac yn fy marn i, roedden nhw’n ymddiddori o ddifrif i sicrhau bod y myfyrwyr yn fodlon ar eu hastudiaethau. Ar ôl bod yma ers bron tair blynedd bellach, galla i gadarnhau’n llwyr bod hyn yn wir a bod anghenion myfyrwyr wrth galon Ysgol y Gyfraith. Un o'r pethau rwy'n eu gwerthfawrogi fwyaf am astudio yn Abertawe yw'r sylw a roddir i lais y myfyrwyr, yn ogystal â’r ffaith bod y staff bob amser mor hawdd siarad â nhw os bydd angen cymorth arna i.
I ba raddau rydych chi wedi bod yn gysylltiedig â Chlinig y Gyfraith?
Er nad oeddwn i’n arbennig o ymwybodol o Glinig y Gyfraith Prifysgol Abertawe pan ddes i yma yn fyfyrwraig yn gyntaf, mae fy ymwneud ag ef ond yn cadarnhau fy mhenderfyniad i astudio yma. Ers dechrau fy ail flwyddyn rwy wedi bod yn gwirfoddoli gyda Phrosiect Camweinyddiad Cyfiawnder y Clinig, sef grŵp o fyfyrwyr sy’n gweithio gyda Chyfarwyddwr y Clinig ar ran yr elusen Inside Justice i ymchwilio i degwch euogfarn ein cleientiaid. Mae cymryd rhan yn y Prosiect hwn wedi bod yn werthfawr gan ei fod wedi rhoi profiad imi o weithio ar achos troseddol go iawn, sy’n rhywbeth rwy’n amau y byddwn i fel arall wedi cael y cyfle i'w wneud. Yn ogystal â hyn, rwy wedi cael y cyfle i gynrychioli'r Prosiect ar Fwrdd y Myfyrwyr sydd newydd ei greu, ac mae hyn wedi caniatáu imi gymryd rhan yn y gwaith o gynnal y Clinig.
A oes gennych chi gynlluniau at y dyfodol?
Gan fy mod i’n gobeithio dilyn gyrfa yn y proffesiwn cyfreithiol ar ôl graddio, mae'r profiad ymarferol rwy i wedi'i gael o fod yn rhan o Glinig y Gyfraith Abertawe yn hynod o bwysig o ran denu sylw ata i o blith yr holl ymgeiswyr eraill. Ar wahân i agweddau cyfreithiol amlwg Clinig y Gyfraith, mae cymryd rhan wedi rhoi’r cyfle imi ddatblygu sgiliau eraill a fydd yn ddefnyddiol yn y gweithle yn y dyfodol, megis gwaith tîm, y gallu i gyfathrebu a thrafod gwybodaeth gyfrinachol.
Ydych chi wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol eraill?
Ar wahân i Glinig y Gyfraith, mae cyfleoedd allgyrsiol eraill ar gael drwy Ysgol y Gyfraith sy'n ddefnyddiol fel paratoad ar gyfer bywyd ar ôl prifysgol. Mae yna nifer o gystadlaethau i ddatblygu sgiliau y gall myfyrwyr gymryd rhan ynddyn nhw gan gynnwys ffug lysoedd barn, cyfweliadau â chleientiaid, y broses o negodi a chyfryngu. Mae cymryd rhan yn gystadleuol mewn ffug lysoedd barn gyda’r brifysgol wedi fy helpu i gynyddu fy hyder a hogi fy sgiliau eirioli yn ogystal â rhoi’r cyfle imi gwrdd â phobl newydd na fyddwn i hwyrach wedi cwrdd â nhw fel arall.
A fyddech chi'n argymell astudio yn Abertawe?
Y tu allan i'r gyfraith, rwy wedi mwynhau byw yn Abertawe; mae'n ddinas gweddol o faint ac nid yw bod yn agos i’r traeth a bod mor agos i Arfordir Penrhyn Gŵyr byth yn beth drwg! Mae yna hefyd lawer o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon eraill, a gall y rhain dynnu’ch sylw oddi ar fyd y gyfraith pan fydd angen peth amser i ffwrdd arnoch chi o’ch astudiaethau.
Yn fyr, byddwn i’n argymell Abertawe yn bendant, yn enwedig os ydych chi'n ystyried gyrfa yn y gyfraith ar ôl graddio!