CANOLFAN GYFREITHIOL Y PLANT

Lleolir ein Canolfan Gyfreithiol y Plant yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe. Mae'n darparu cyngor a gwybodaeth ar-lein i bobl ifanc am eu hawliau, yng Nghymru ac yn gyffredinol.

Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant yn cynnwys gwybodaeth am faterion penodol (er enghraifft, plant a lloches, plant sy'n cael eu harestio a gwybodaeth i blant anabl), yn ogystal ag adnoddau a blog am hawliau dynol plant.