ARDDANGOS YMCHWIL YN Y GYMUNED

A montage of exhibits

Amdanom ni

Mae Oriel Science yn lleoliad arddangosfeydd i'r cyhoedd arloesol yn y DU, a gynhelir gan Brifysgol Abertawe, sy'n arddangos ymchwil y Brifysgol i'r gymuned drwy arddangosfeydd, gweithdai a sgyrsiau. Ers ei sefydlu yn 2016, mae Oriel Science wedi cyrraedd mwy na 150,000 o bobl, wedi croesawu mwy na 25,000 o ymwelwyr i'n lleoliadau, wedi cynnig gweithdai llawn ysbrydoliaeth i fwy na 2,500 o fyfyrwyr ac wedi cynnal cannoedd o ddigwyddiadau.

Ei nod yw gwella teithiau addysgu a gyrfaol cenedlaethau'r dyfodol, mynd i'r afael â thangynrychiolaeth a chyfoethogi perthynas y cyhoedd â gwyddoniaeth ac ymchwil. Mae'n gwneud hynny drwy saernïo ymchwil y Brifysgol i fod yn arddangosfeydd diddorol a chyfareddol, a chynnal y rhain mewn lleoliadau lle mae nifer o ymwelwyr, fel y gallwn ni gwrdd â phawb, a'u haddysgu a'u hysbrydoli!

Mae Oriel Science yn adnodd pwerus i academyddion Prifysgol Abertawe, gan gynnig llwyfan iddynt ar gyfer ymchwil ac ymgysylltiad â'r cyhoedd sy'n canolbwyntio ar y gymuned.

Ym mis Mai 2021, lansion ni ein lleoliad yng nghanol y ddinas, gan ddenu miloedd o bobl chwilfrydig a myfyrwyr ysgolion.Mae ymwelwyr ag Oriel Science wedi dweud y canlynol:

  • Waw! Roeddem ni'n ddigon ffodus i gael taith dywys o amgylch @OrielScience newydd yng nghanol dinas Abertawe ac mae'n WYCH! Mae'n llawn arddangosfeydd llawn hwyl a rhyngweithiol sy'n dathlu doniau Abertawe nawr ac yn y gorffennol, wrth ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n ased enfawr i Abertawe mewn cynifer o ffyrdd!
  • Mae'n lle gwych i fynd os ydych chi'n hoffi gwyddoniaeth ac am ddysgu rhagor am syniadau a thechnolegau newydd. Roedd y plant wrth eu boddau cymaint, doedden nhw ddim am adael!

Mae addysgwyr sydd wedi dod â dosbarthiadau i Oriel Science wedi bod wrth eu boddau gyda'n rhaglen o weithdai rhyngweithiol, gan nodi'r canlynol:

  • mae wedi ysbrydoli myfyrwyr i feddwl yn arloesol a rhoi cynnig ar bethau newydd, gan feddwl am y byd mewn ffordd wahanol,
  • roedd yn addysgol ac yn berthnasol i'r cwricwlwm ac wedi bod o fudd i ddysgu'r myfyrwyr,
  • roedd yn bleserus tu hwnt gyda chynnwys a staff rhagorol. Bu'r holl ddisgyblion yn dweud eu bod am dychwelyd.

I gael rhagor o wybodaeth am ein harddangosfeydd gwych ac archwilio ein cyfres amrywiol o weithdai i ysgolion a'r cyhoedd, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol @OrielScience.

Arweinydd y Prosiect: Athro Chris Allton