Mae gwyddonwyr SEACAMS2 wedi dangos amrywiaeth y prosiectau Ymchwil a Datblygu o'r radd flaenaf yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prifysgol Abertawe. Cafodd ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ystod y penwythnos hwn i'r teulu gyflwyniad i fyd gwaith cynhwysol gwyddonol, morol ac arfordirol y mae SEACAMS yn ei wneud. Mae gweithgareddau ymarferol a rhyngweithiol a oedd ar gael yn dangos ymrwymiad Prifysgol Abertawe i ymgysylltu â diwydiannau lleol a'u cefnogi. Roedd teuluoedd yn gallu cymryd rhan mewn cwis bywyd morol, 'dysgu i blymio' mewn lagŵn dros dro (neu bwll mawr) ac edrych drwy fiscrosgopau gwahanol i edrych yn agos ar greaduriaid planctonig. Cyflwynwyd yr arddangosfa gyda lluniau ac origami ar thema forol a gynhyrchwyd gan ymwelwyr a staff, gan gynnwys crefftau a wnaed o boteli llaeth plastig untro.
ymgysylltu â ' r gymuned
.jpg)
.jpg)
.jpg)
.jpg)
Mae SeagrassSpotter yn arf cadwraeth fyd-eang ac addysgu dinasyddion a grëwyd ac y gynhelir gan elusen a sefydlwyd gan staff a myfyrwyr o Brifysgol Abertawe. Nod y wefan a'r ap ffôn yw casglu gwybodaeth Mynediad Agored ar borfeydd morwellt ledled y byd.Helpwch ni i gadw ein harfordir drwy lanlwytho gwybodaeth pan fyddwch chi'n gweld morwellt.


Mae Oriel Science yn arddangosfa i'r cyhoedd ac yn lle addysgu allgymorth sy'n cynnig arddangosfeydd ar ymchwil o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe. Bob mis, mae Caffi Oriel Science yn gwahodd arbenigwr blaenllaw yn eu meysydd i roi sgwrs gyflwyno fer a gaiff ei dilyn gan sgwrs anffurfiol. Gallwch eistedd yn ôl gyda diod a gwrando neu gymryd rhan yn y drafodaeth a’r ddadl

.jpg)
Rhaglen allgymorth mewn ysgolion yw Technocamps yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe.
Gwyddoniaeth Bocs Sebon
.jpg)


Sefydliad allgymorth gwyddonol ar lafar gwlad yw Gwyddoniaeth Bocs Sebon sy'n dod ag ymchwil o'r radd flaenaf i strydoedd trefol wrth hefyd hyrwyddo amlygrwydd menywod ym maes gwyddoniaeth. Rydym yn gwahodd siaradwyr ysbrydoledig i siarad ar focs sebon ac yn eu hannog i gychwyn sgyrsiau â'r cyhoedd am eu gwaith.


Prosiect allgymorth ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yw Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Prifysgol Abertawe (S4) sy'n cysylltu disgyblion Cyfnod Allweddol 3 yn ne Cymru â gwyddoniaeth yn y Brifysgol. Arweinir S4 gan wyddonwyr ymchwil, a'i nod yw cyffroi pobl ifanc ac ennyn eu diddordeb mewn gwyddoniaeth drwy weithdai ymarferol, rhad ac am ddim a arweinir gan ymchwil ac a ysgogir gan chwilfrydedd. Nod S4 yw ei gwneud hi’n haws i ddysgu pynciau STEM, a chynyddu nifer y myfyrwyr sydd o gefndiroedd nad ydynt yn draddodiadol yn astudio pynciau STEM ar lefel addysg uwch a chyrhaeddiad y myfyrwyr hyn ym maes addysg uwch.


Cynigodd SmartAqua arddangosfa gwymon, misglod a physgod yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prifysgol Abertawe. Roedd gan westeion y cyfle i gwrdd â physgod abwyd, pysgod sebra a chymryd rhan mewn helfa drysor morol.
Ar hyn o bryd, rydym wrthi'n trefnu'r Symposiwm cyntaf ar Les mewn Dyframaeth.. Gan dynnu ar gyfraniadau gan ymchwilwyr, diwydiant a rheoleiddwyr, bydd y symposiwm hwn yn ymchwilio i’r pethau cyffredin a gwahanol yng ngofynion lles rhywogaethau gwahanol a fagir, a bydd yn gofyn a oes dulliau mesur sylfaenol yn bodoli. Caiff ei ddilyn gan weithdy ar ofynion lles ieir môr, un o’r pysgod sy’n cael ei fagu fwyfwy a chyflymaf yn Ewrop. Lawrlwythwch Raglen y Symposiwm a chadw lle ar-lein yma
.jpg)
.jpg)
Drwy lawrlwytho Ap Olrhain Rhwystrau'r prosiect AMBER, gallwch helpu i ailgysylltu afonydd Ewrop, olrhain rhwystrau a dysgu am eu heffeithiau. Mae afonydd ymysg yr ecosystemau sydd fwyaf mewn perygl yn y byd yn rhannol o ganlyniad i chwalu cynefinoedd gan ddegau ar filoedd o argaeau a choredau. Mae rhai rhwystrau'n hen ac nid ydynt yn cael eu defnyddio mwyach, ond mae eraill yn cynnig cyfleoedd ar gyfer darparu ynni, dŵr, pysgota a hamdden. Mae'ch help chi i gofnodi rhwystrau gyda'r Ap Olrhain Rhwystrau yn hanfodol i fapio holl rwystrau afonydd Ewrop a chreu Atlas Rhwystrau Ewrop, a fydd y cyntaf o'i fath.
- Biowyddorau
- Cemeg
- Cyfrifiadureg
- Daearyddiaeth
- Mathemateg
- Ffiseg
- YMCHWIL
- Rhyngwladol
- Ysgoloriaethau Ôl-raddedig
- ymgysylltu â ' r gymuned
- Y Ffowndri Gyfrifiadol ym Mhrifysgol Abertawe
- UNSDG
- Ein Staff
- Cydraddoldeb mewn Gwyddoniaeth
- Pwyllgor moeseg ymchwil y coleg gwyddoniaeth
- Cyn-Fyfyrwyr y Coleg Wyddoniaeth
- astudio yng ngholeg gwyddoniaeth
- Canolfan EPSRC Hyfforddiant Doethurol
- CHERISH-DE