ymgysylltu ag adran Fathemateg Prifysgol Abertawe

Cafodd cynrychiolwyr o thema Gwyddorau Mathemateg EPSRC eu plesio gan weithgareddau addysgu ac ymchwil adran Fathemateg Prifysgol Abertawe yn y Ffowndri Gyfrifiadol, yn ystod ymweliad diweddar.

Roedd yr ymweliad ar ddiwedd mis Ionawr yn gyfle gwych i'r adran ymgysylltu â chyllidwyr, ac roedd yn cyd-fynd â chyhoeddiad y Llywodraeth o’r hwb cyllid sylweddol i Wyddorau Mathemategol ledled y DU.

Cafodd Katie Blaney, Pennaeth y thema Gwyddorau Mathemategol, a phedwar aelod o’i thîm eu plesio gan gyflwyniad yn rhoi mewnwelediad i’r adran Fathemateg, a gyflwynwyd gan 14 o gydweithwyr, o Bennaeth yr Adran i ECRs.

Mae EPSRC wedi datgan ynghylch cyllid newydd y Llywodraeth:  "Mae'r gwyddorau mathemategol yn ddisgyblaeth allweddol yn eu hunain yn ogystal â bod yn hanfodol ar gyfer hyrwyddo pob maes gwyddoniaeth a thechnoleg, ac yn sail i ystod eang o ddarganfyddiadau ar draws y sbectrwm ymchwil o safbwynt iechyd a diogelwch yr amgylchedd.”

“Bydd y cyhoeddiad cyllid yn ymestyn ar draws pob disgyblaeth fathemategol, o fathemateg bur i ystadegau”.