Dr Alma Rahat, Darlithydd Data Mawr/Gwyddor Data

Ymunais â'r Ffowndri Gyfrifiadol o Brifysgol Plymouth, lle'r oeddwn yn gweithio fel darlithydd mewn Cyfrifiadureg. Graddiais mewn Peirianneg Electronig a dechreuais ar fy ngyrfa fel peiriannydd datblygu cynnyrch. Yna dychwelais i'r byd addysg, a chwblhau fy PhD (mewn Cyfrifiadureg) ac Ôl-Ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Exeter.

Mae fy niddordebau ymchwil yn ymwneud â datrys problemau cyfrifiadol cymhleth. Yn syml, mae'r rhain yn cynnwys dechrau gyda phroblem a, thrwy adeiladu model dysgu peiriannau, samplu ac ymholi posibiliadau dan gyfarwyddyd rhagfynegiadau, a defnyddio datrysiadau addawol i wella'r model yn ddilyniannol: y nod yn y pendraw yw lleoli neu ddod yn agos i'r datrysiad a ddymunir.

Mae'r ymchwil hwn yn bwysig i ddiwydiant gan ei fod yn ddull effeithiol yn seiliedig ar ddata ar gyfer datrys problemau, ac mae'n efelychu'r broses gwneud penderfyniadau dynol.

Hon yw fy wythnos gyntaf yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe; rwyf wrth fy modd â phensaernïaeth Campws y Bae a bod mewn lleoliad mor wych.