Synau 'Copperopolis' yn fyw mewn arddangosfa ddeinameg

Dr Doon Macdonald gyda phlant o Ysgol Gynradd Hafod

Dr Doon Macdonald gyda phlant o Ysgol Gynradd Hafod

Synau 'copperopolis' yn fyw mewn arddangosfa ddeinameg

Roedd treftadaeth diwydiant copr Abertawe wedi cael ei atgyfodi mewn arddangosfa ddeinamig yn Theatr Volcano fis yma.

Roedd yr arddangosfa 'Finding Copperopolis' yn cynnwys gwaith Dr Doon Macdonald, a oedd wedi cyfansoddi trac sain y ffilm 'Echoes of Copperopolis' ar y cyd gyda phlant Ysgol Gynradd Hafod. Cafodd y ffilm ei gwneud gan ddefnyddio model 3D wedi ei wneud gan Nick Russill o Terradat Geophysics, cwmni arolwg geoffisegol annibynnol arbenigol.

Roedd plant blwyddyn 4 yn gweithio gyda Doon i greu synau'r hyn roeddent yn tybio y byddai peiriannau gwaith copr Hafod Morfa wedi gwneud yn ôl yn yr 19fed Ganrif. Cawsant eu hysbrydoli gan y Tŷ Weindio yn Nhredegar Newydd, sydd â pheiriant weindio Fictorianaidd.

Dywedodd Richard Phillips, Athro Blwyddyn 4 Ysgol Gynradd Hafod: "Mae gwrando ar y darn gorffenedig yn wych; mae'r plant wedi gwir fwynhau bod yn rhan o'r broses greu, ac mae cael gweld eu gwaith nhw eu hunain yn y ffilm heddiw yn coroni'r cyfan."

Mae Doon, sydd yn Gynorthwyydd Ymchwil ar gyfer prosiect CHERISH -DE ym Mhrifysgol Abertawe, hefyd wedi creu darn o hanes byw rhyngweithiol mewn ffurf pibell gopr, sydd, pan mae'n cael ei symud, yn trosglwyddo straeon gan y bobl a oedd yn arfer gweithio ar y safle gwaith copr.

Dywedodd hefyd: "Roedd Abertawe'n cael ei hadnabod fel 'Copperopolis' yn ystod yr 18fedganrif a'r 19fed ganrif, gan bod 90% o gopr y byd yn cael ei wneud yn ein dinas ni. Mae'n holl bwysig ein bod yn cadw hanes cymdeithasol y gwaith copr yn fyw drwy brosiectau ymgysylltu digidol fel hyn. Roedd cynnwys plant Ysgol Gynradd Hafod yn ffordd arbennig o'u hymgysylltu nhw â hanes eu cymuned eu hunain."

Dywedodd Dr Tracy Evans, trefnydd yr arddangosfa: "Mae'r arddangosfa a’r model 3D yn ddiwedd gwych i brosiect blwyddyn o hyd, lle rydym wedi gweithio gyda nifer o ysgolion a grwpiau cymunedol i rannu hanes y Gwaith Copr ac yn arbennig i godi ymwybyddiaeth o Beiriant Craen Musgrave sydd newydd ei adfer.

"Roedd y gwaith adfer wedi ei wneud gan beiriannydd lleol, Tom Henerson, a grŵp o wirfoddolwyr brwd, diolch i grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae adeiladu model 3D o Dŷ Pheiriant Musgrave wedi ein galluogi i ddarganfod ffyrdd newydd i bobl ymweld â'r safle, heb fod yno eu hunain, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cynyddu nifer yr ymwelwyr rhith yn y blynyddoedd i ddod."

Mae'r arddangosfa hefyd yn arddangos gwaith Karen Ingham, Grŵp Gelf Crisis ac Emma Jason. Safle Gwaith Copr Hafod Morfa yw canolbwynt prosiect arloesol o adnewyddu treftadaeth sydd wedi ei ariannu gan Brifysgol Abertawe, Dinas a Chyngor Abertawe, Cadw a Llywodraeth Cymru.