Llun gan Adrianne McKenzie

Angela

"Tyfodd fy rhwydwaith proffesiynol mewn meysydd na fyddai erioed wedi ei wneud o

Dr Angela Martinez Dy, Darlithydd mewn Entrepreneuriaeth, Sefydliad Arloesi ac Entrepreneuriaeth, Prifysgol Loughborough Llundain

"Roedd yn gyffrous ymuno â’r Crwsibl yn 2017. Entrepreneuriaeth ddigidol yw fy arbenigedd i, ac roeddwn yn gwerthfawrogi’n arbennig y cyfle i wneud cysylltiadau ag eraill gan weithio’n ehangach ar draws yr economi ddigidol, a chael cyflwyniad i wahanol feysydd pwnc gan ysgolheigion yn y gwyddorau naturiol a’r HCI. Tyfodd fy rhwydwaith proffesiynol mewn meysydd na fyddai erioed wedi ei wneud o’r blaen.

Roedd yr hyfforddiant cyfryngol yn ddefnyddiol iawn - fe gryfhaodd fy ngallu i gyfleu fy ymchwil i’r cyfryngau a’r cyhoedd ehangach mewn ffordd hygyrch ac addysgiadol. 

Mae’r sgiliau cyfathrebu hyn yn amhrisiadwy yn y prosiect newydd yr wyf yn arweinydd ymchwil arno. Mae ‘OneTech’ yn brosiect diwydiant cydweithredol a arweinir gan Capital Enterprise a’i ariannu gan JP Morgan Chase ac Awdurdod Llundain Fwyaf sy’n anelu at gynyddu amrywiaeth a chynhwysiad yn sector cychwyn busnes technegol Llundain, y mae Prifysgol Loughborough Llundain wedi sicrhau cyllid o £100,000 ar ei gyfer."