17 Nod
Nod 1 – Dim Tlodi
Pacondaa a’i swyddogaeth wrth leihau tlodi
Mae hi’n hanfodol y caiff cynhyrchiant dyframaeth ei ddatblygu’n gynaliadwy er mwyn sicrhau Sicrwydd Bwyd Byd-eang a Lliniaru Tlodi ar gyfer yr holl hil ddynol, ond mae achosion o heintiau yn her allweddol i’r diwydiant dyframaeth. Bydd ein consortiwm o naw sefydliad ymchwil a phrifysgol yn yr India, y DU a Bangladesh yn gweithio gyda ffermwyr yn yr India a Bangladesh i ganfod yr arferion gorau sy’n cael eu defnyddio drwy’r prosiect PACONDAA (Lliniaru tlodi drwy atal a rheoli yn y dyfodol y ddau brif haint economaidd-gymdeithasol yn nyframaeth Asia). Caiff eu profiad ei ddefnyddio i lunio canllawiau newydd i’w dosbarthu drwy gymunedau amaethyddol ledled Asia.
Gyda’r diben o leihau tlodi drwy ddyframaeth gynaliadwy drwy gyfrwng y prosiect PACONDAA, bydd tîm Abertawe (Prif ymchwilydd: Dr Sergei Shubin, Swyddog ymchwil: Tanjil Sowgat) yn cydweithio â chymunedau yn Bangladesh a’r India i ddeall a lleihau tlodi drwy hyrwyddo dyframaeth gadarn. Mae gweithgareddau effaith diweddar wedi archwilio’r dewisiadau ar gyfer creu dyfodol cynaliadwy ac wedi cyd-ddatblygu straeon am dlodi gyda phobl ifanc, artistiaid, academyddion a phobl leol yng nghefn gwlad yr India a Bangladesh. Cafwyd ymateb anhygoel i’r gweithgareddau eisoes o ran rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth am dlodi amlweddog. Llwyddodd y gweithgareddau effaith i annog hyrwyddwyr a gwirfoddolwyr newydd ymysg yr artistiaid, y ffermwyr, ac yn bennaf oll, plant lleol, sydd eisiau sicrhau dyframaeth wyddonol a chydnerth a darganfod ffyrdd newydd o ddeall a lleihau tlodi. Mae tîm ymchwil Abertawe yn ffyddiog y bydd yr astudiaeth hon yn cyfrannu at ffyrdd newydd a ffres o fynd i’r afael â thlodi, a’i leihau, drwy ddyframaeth.
Datblygu ‘plaleiddiaid’ biolegol
Y grŵp bioreolaeth a chynnyrch naturiol (BANP) <http://www.swansea.ac.uk/biosci/researchgroups/biocontrolandnaturalproductsgroup/banp/>
Diben ein hymchwil yw datblygu cynhyrchion a strategaethau cynaliadwy sy’n ystyriol o’r amgylchedd er mwyn rheoli plâu arthropodaidd sydd o bwysigrwydd economaidd-gymdeithasol byd eang.
Mae cynhyrchion yn cynnwys ffyngau entomopathogenic megis Metarhizium anisopliae, planhigion a semiogemegau. Caiff planhigion â nodweddion sy’n denu neu’n lladd neu’n cadw pryfed draw eu defnyddio ar y cyd â’r ffyngau i greu strategaethau rheoli plâu arloesol a fydd yn "denu a lladd" neu "ddrysu a lladd" y pryfed a dargedir.
Mae dau faes i’n gwaith:
Plâu cnwd: Gwiddon ddu’r winwydden, Llyngyr y stumog, Larfau’r pryf teiliwr, Llyslau, Pryfed gwynion, Thripiau, Gwiddon y Castanwydd
Plâu o bwysigrwydd meddyginiaethol a milfeddygol: Trogod , Mosgitos, Gwybed Mân, Pryfed Tywod
Bydd ein hymchwil yn helpu tyfwyr i gael gwared ar blâu a fyddai fel arall yn dinistrio cnydau, gan helpu i leihau newyn, tlodi, a chaniatáu i gynhyrchwyr arbed arian. Bydd hefyd yn cefnogi iechyd pobl ac anifeiliaid ledled y byd drwy gael gwared ar ffynonellau heintiau megis trogod, mosgitos a gwybed mân.
Manylion cyswllt: Tariq Butt (Yr Adran Gwyddorau Biolegol) t.butt@abertawe.ac.uk
Nod 2 – Dim Newyn
Mae’r Coleg Gwyddoniaeth yn cynnal cwrs maes blynyddol yn y drydedd flwyddyn i Sikkim, i fynyddoedd yr Himalaya yn yr India. Mae hwn yn gwrs maes rhyngddisgyblaethol yng ngwir ystyr y gair, gyda myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer gradd mewn daearyddiaeth ddynol a ffisegol, bioleg a sŵoleg i gyd yn rhan o’r daith. Mae Sikkim yn lleoliad unigryw ar gyfer gwaith maes - mae’n enwog am ei amgylchedd syfrdanol, bioamrywiaeth gyfoethog, a’r ymrwymiad cryf i werthoedd amgylcheddol. Ar y cwrs maes, mae myfyrwyr yn gweithio’n unigol ac mewn grwpiau i gwblhau prosiectau ymchwil rhyngddisgyblaethol ar bum thema: trefoli, trydan dŵr, amaethyddiaeth, ecodwristiaeth a pheryglon naturiol. Mae’r prosiectau a gwblheir o dan y themâu hyn yn cyfateb i’r Nodau Byd-eang ar gyfer datblygu cynaliadwy, ac mae’r cwrs maes yn gweithio’n agos gyda phartneriaid amrywiol yn Sikkim.
Cyswllt: Osian Elias (Adran Daearyddiaeth) o.h.elias@abertawe.ac.uk
Defnyddio algâu i hyrwyddo cynaliadwyedd amaethyddol yn yr economi gylchol
https://www.biorefine.eu/news/using-algae-promote-agricultural-sustainability-and-circular-economy
Datblygu ‘plaleiddiaid’ biolegol
Nod 3 – Iechyd a lles da
Erythrosensorau
Os yw rhywun yn dioddef o ddiabetes, mae monitro glwcos yn barhaus yn lliniaru unrhyw broblemau cymhleth sy’n deillio o fod â gormod o glwcos neu rhy ychydig ohono. Mae pobl â diabetes yn mesur faint o glwcos sydd yn eu gwaed sawl gwaith bob dydd drwy bigo’u bys, neu drwy ddefnyddio dyfeisiau monitro mewnblanadwy. Eto, mae lefelau glwcos yn y gwaed yn amrywio gydol y dydd ac mae’r dulliau monitro presennol yn amharu ar fywyd rhywun. Mae ein tîm yn gweithio ar strategaethau a fydd yn ynysu celloedd coch claf, eu llwytho â synhwyrydd fflwroleuol a’u defnyddio i fesur lefelau glwcos yn y gwaed drwy gyfrwng system optegol. Mae yna botensial i gelloedd gwaed coch wedi eu llwytho â synwyryddion wella ffordd o fyw pobl sy’n dioddef o ddiabetes, a chael eu defnyddio i drin, canfod a monitro anhwylderau eraill.
Manylion cyswllt: S Lopez (Adran Ffiseg) S.C.B.Lopez@abertawe.ac.uk
Map canghennog cartograffaidd o iechyd y boblogaeth
Rydym ni’n cynnig map canghennog cartograffaidd i gynnwys darlun cynrychioliadol addasedig o’u DU yn seiliedig ar wybodaeth daearyddol-ofodol o ardaloedd CCG wedi eu cyfuno â map canghennog i gyflwyno data amlamryweb y GIG. Mae’r graff hwn yn dangos maint pob rhanbarth yn gymesur â’i boblogaeth, gyda hidlydd llai na’r cyfartaledd wedi ei ychwanegu (i fyny) ac allbwn maint cyffredin gyda hidlydd llai na’r cyfartaledd (i lawr). Caiff pob anhwylder gofal iechyd sy’n fwy cyffredin na’r arfer eu dangos mewn llwyd. Sylwch fod rhanbarth Llundain yn iachach, ac eithrio o ran diabetes ac iechyd meddwl. Mae hwn yn arsylwad sy’n seiliedig ar amrywebau lluosog a fyddai’n anodd ei wneud fel arall.
Manylion cyswllt: Chao Tong (Yr Adran Gyfrifiadureg) tcjohn2046@gmail.com
Prosiect SUNRISE
Mae Dr Ian Mabbett, Athro Cyswllt Cemeg a Phrif Gyswllt Gweithrediadau y prosiect SUNRISE, yn helpu i wella bywydau pobl yn yr India.
Mae fy ngwaith ymchwil diweddar yn canolbwyntio ar broblemau mewn gwledydd sy’n datblygu. Yn 2014, digwyddais ddod i gyswllt â Sefydliad Bill a Melinda Gates, a thrwy hynny, canfûm nad oes gan 40% o boblogaeth y byd fynediad digonol at gyfleusterau toiled addas. O ganlyniad i hyn, mae dolur rhydd yn lladd mwy o blant nag AIDS, malaria a’r frech goch gyda’i gilydd. Ynghyd â’r Sefydliad, sylweddolais y gallai fy sgiliau i ynghyd ag ysbryd arloesol Abertawe helpu gydag un o’r heriau mawr. Y gwir amdani yw bod yn rhaid i’r dechnoleg sydd ei hangen i ddatrys y materion hyn fod yn ddichonol yn fasnachol, ac mae’n rhaid inni gael gwerth o’r gwastraff drwy greu nwyddau eraill megis tanwyddau neu wrteithiau neu ddŵr glân. Un peth sy’n rhwystro’r technolegau yw ffordd economaidd o gyn-brosesu a dad-ddyfrio deunydd slwj carthion. Drwy fy ngwaith blaenorol ar sychu, trin a sintro amrywiol ddeunyddiau, roeddwn wedi cael tipyn o brofiad o sychu ymbelydrol, ac fe all hyn helpu i drin deunyddiau yn y lle cyntaf a chwtogi ar ynni a chostau.
Yn ddiweddar, achubais ar gyfle cyffrous iawn i gyfuno’r holl brofiadau hyn yn rhinwedd fy swydd yn brif swyddog gweithrediadau SUNRISE. Mae SUNRISE yn defnyddio’r profiad SPECIFIC-IKC (consortiwm academaidd a diwydiannol dan arweiniad Prifysgol Abertawe gyda Tata Steel yn brif bartner diwydiannol) o gynhyrchu mwy o ddeunyddiau ynni y genhedlaeth nesaf, yn enwedig ffotofoltäigau, a gwneud iddynt weithio yn yr India. Bydd y prosiect yn datblygu technoleg mewn ffotofoltäigau, stori ynni, goleuo, biomas a dŵr glân a charthffosiaeth i gyd-ddatrys yr agweddau hyn gyda phartneriaid o’r DU a’r India, ac yn ychwanegol at hyn, yn creu rhaglen hyfforddi doethurol, nid yn annhebyg i radd EngD Abertawe sydd â phwyslais ar ddiwydiant, yn y ddwy wlad.
Manylion cyswllt: Dr Ian Mabbett (Yr Adran Gemeg) i.mabbett@abertawe.ac.uk
Nod 4 – Addysg o ansawdd
Systemau sain soffistigedig mewn mannau cyhoeddus yn slymiau’r India
Mae miliynau o gartrefi ledled y byd yn mwynhau mynediad at gynnwys a gwasanaethau digidol drwy gyfrwng unedau sain soffistigedig megis ‘Echo’ gan Amazon a system ‘Home’ Google. Mae deunydd hyrwyddo a fideos gan ddefnyddwyr eu hunain fel arfer yn dangos ystafelloedd sydd â llawer o adnoddau ynddynt, gyda seilwaith data a phŵer da. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chymunedau rhai o slymiau’r India, lle mae’r cartrefi yn gyfyng iawn fel rheol (ystafell neu ddwy), lle nad yw bron neb wedi clywed am WiFi cartref personol, lle mae’r seilwaith pŵer yn llawer mwy anwadal, ac adnoddau ariannol yn golygu nad oes modd cael unedau sain soffistigedig mewn cartrefi unigol. Wedi ein hysbrydoli gan y rhaglen bythau-rhyngrwyd “twll yn y wal”, rydym ni wedi dylunio ac adeiladu dwy system uned sain a’u gosod mewn mannau cyhoeddus a rhodfeydd yn un o slymiau mawr yr India. Roedd y prototeipiau hyn yn fodd i bobl a oedd yn cerdded heibio holi cwestiynau a chael naill ai atebion cyfrifiadurol yn syth neu atebion gan fodau dynol wedi oedi byr. Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â Nodau’r Cenhedloedd Unedig o ran lleihau anghydraddoldebau (Nod 10), addysg (Nod 4) ac arloesi (Nod 9) ar gyfer datblygu cynaliadwy.
Manylion cyswllt:
Matt Jones (yr Adran gyfrifiadureg)
matt.jones@abertawe.ac.uk
Jennifer Pearson
j.pearson@abertawe.ac.uk
Simon Robinson
s.n.w.robinson@abertawe.ac.uk
Thomas Reitmaier
thomas.reitmaier@abertawe.ac.uk
Nod 5 – Cydraddoldeb rhwng y rhywiau
Datblygu ‘plaleiddiaid’ biolegol - Gweler Nod 1
Nod 6 – Dŵr Glân a Charthffosiaeth
DŴR A THÂN: RHAGWELD A LLINIARU’R PERYGLON O LYGREDD DŴR YN DEILLIO O LUDW TANNAU GWYLLT – mae hwn yn gynllun NECR (2018-2021)
Mae tân yn llosgi ~4% o arwyneb tir y byd sydd â llystyfiant arno bob blwyddyn, gan gynnwys dalgylchoedd coedwigol sy’n darparu 60% o’r dŵr i 100 o ddinasoedd mwyaf y byd. Mae’r lludw y mae tannau yn ei adael ar ôl ar y ddaear yn llawn llygryddion sy’n debygol iawn o gael eu cludo drwy erydiad tir. Mae lludw felly yn cynrychioli bygythiad difrifol i ecosystemau dŵr gydag effeithiau gwybyddus eisoes ar ansawdd dŵr, ac effeithiau difrifol ar y boblogaeth a’r amgylchedd (h.y. cyfyngiadau ar ddŵr ffres, ewtroffigedd, gordyfiant o algâu ac ati) a chostau sylweddol i adfer gwasanaethau ecosystemau dŵr (e.e. $32 Miliwn, Denver yn 1996&2002; $38 Miliwn, Canberra yn 2003; £3 Miliwn, Belffast yn 2011; $1 Miliwn, Fort MacMurray yn 2016). Fodd bynnag, nid oes unrhyw fodelau yn bod ar hyn o bryd sy’n ei gwneud yn bosibl i ragweld cludiant lludw a chefnogi dyluniad strategaethau i liniaru’r perygl o lygru dŵr ar ôl tân.
Mae’r prosiect NERC hwn, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn dod â thîm rhyngwladol o wyddonwyr blaenllaw at ei gilydd (Prifysgol Abertawe -Y DU-, Gwasanaeth Coedwigaeth yr Unol Daleithiau -UDA-, A Phrifysgol Melbourne -Awstralia-) ynghyd a defnyddwyr (Dŵr Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyfoeth Naturiol Cymru) i fynd i’r afael â’r diffyg sylweddol hwn mewn gwybodaeth ac offer. Ein nod yw datblygu offeryn y gall defnyddwyr ei ddefnyddio i ragweld faint o ludw a adewir a’r perygl o halogi ar ôl tannau gwyllt a chefnogi rheolwr tir (targed 6.5) i ddylunio strategaethau lliniaru effeithiol er mwyn diogelu ansawdd dŵr (targed 6.3), cyflenwad dŵr yfed (targed 6.1), ac ecosystemau sy’n gysylltiedig â dŵr (targed 6.6).
Cyswllt:
Yr Athro. Stefan Doerr (Yr Adran Ddaearyddiaeth): s.doerr@abertawe.ac.uk
Dr. Cristina Santín (Yr Adran Ddaearyddiaeth a’r Adran Gwyddorau Bioleg): c.santin@abertawe.ac.uk
Dr. Jonay Neris (Yr Adran Ddaearyddiaeth): j.neristome@abertawe.ac.uk
Sefydlogi ac adfer gweithfeydd metel segur
Drwy’r byd mae gweithgareddau mwyngloddio hanesyddol wedi gadael eu hôl ar yr amgylchedd. Hyd at y 1970au, roedd hi’n arferol i gwmnïau mwyngloddio adael safleoedd heb wneud prin ddim gwaith adfer, os o gwbl. Mae gweddillion y gwaith cloddio yn aml wedi eu halogi â metelau trwm ac nid yw hi’n beth anghyffredin canfod bod afonydd a chyflenwadau dŵr gerllaw wedi eu halogi. Gan weithio gyda chwmnïau lleol, rydym ni wedi darganfod fod defnyddio bio-olosg addasedig (cynnyrch llawn carbon sy’n ganlyniad i pyrolysis) ar y gweddillion yn ffordd gost-effeithiol o sefydlogi ac adfer gweithfeydd metel segur. Dangoswyd bod bio-olosg yn storio maetholion, yn atal halogyddion anorganig (metelau trwm) ac organig (hydrocarbonau aromatig polysyclig, plaleiddiaid, tocsinau planhigion ymledol), ac o gymorth i adfer hen safleoedd diwydiannol a thir sydd wedi diraddio. Mae ganddo hefyd swyddogaeth bwysig yn y broses o ddal a storio carbon y gellir ei ddefnyddio i liniaru newid yn yr hinsawdd.
Gwastraff yng ngwaith plwm segur Nant y Mwyn.
Cyswllt:
Iain Robertson (Yr Adran Ddaearyddiaeth) i.robertson@abertawe.ac.uk
Prosiect SUNRISE
Nod 7 – Ynni glân a fforddiadwy
Storio ynni’r haul a lliniaru allyriadau CO2
Mae Moritz F. Kuehnel a’i dîm yn yr Adran Gemeg yn datblygu catalyddion newydd i storio ynni’r haul a lliniaru allyriadau CO2 ar yr un pryd. Mae eu gwaith ymchwil yn manteisio ar briodoleddau ffotoffisegol nanogrisialau lled-ddargludol wedi’u cyfuno â detholusrwydd catalyddion moleciwlar i droi dŵr, gwastraff a CO2 yn danwydd adnewyddadwy gan ddefnyddio golau dydd. Mae eu prosiect diweddaraf yn astudiocynhyrchiant uniongyrchol H2 glân o fiomas lignoselwlosig.
Manylion cyswllt: Dr. Moritz F. Kuehnel (Yr Adran Gemeg)
Gwaith Maes yn Sikkim
Prosiect Sunrise
Nod 8 – Gwaith gweddus a thwf economaidd
Datblygu ‘plaleiddiaid’ biolegol - Hyfforddiant a dysgu sgiliau technolegol er mwyn helpu unigolion mewn gwledydd sy’n datblygu i gaffael sgiliau newydd, datblygu diwydiannau cartref a defnyddio adnoddau yn fwy effeithiol.
Helpodd Prifysgol Abertawe i hyfforddi gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abubakar Tafawa Balewa (ATBU) yn Bauchi, Nigeria ar gynllun i ddatblygu plaleiddiaid biolegol. Byddai hyn yn fodd o liniaru tlodi drwy greu cyflogaeth drwy sefydlu diwydiannau cartref bychain i gynhyrchu cyfryngau rheoli biolegol ffyngol yn Nigeria. At hyn, gallai’r dechnoleg fanteisio ar ddeunyddiau lleol ac felly sicrhau llif o gyfoeth yn y gymuned.
Mae mosgitos yn trosglwyddo ystod eang o heintiau (e.e. gwibgymalwst, y dwymyn felen, malaria, filariasis, llyngyr y galon) sy’n gallu cael effaith ddifrifol ar iechyd pobl ac anifeiliaid. Yn 2010 roedd 216 miliwn achos tybiedig o falaria a 655,000 o farwolaethau tybiedig oherwydd malaria gydag oddeutu 86% o’r rhai oedd yn marw o’r haint ledled y byd yn blant o dan bum mlwydd oed (Sefydliad Iechyd y Byd, 2011). Gwibgymalwst yw’r haint firysol a drosglwyddir gan fosgitos sy’n lledu gyflymaf yn y byd; mae ei ystod ddaearyddol wedi cynyddu 30 gwaith yn y 50 mlynedd diwethaf (Sefydliad Iechyd y Byd, 2009). Ceir oddeutu 50-100 miliwn o achosion o’r haint yn flynyddol ac mae oddeutu 2.5 biliwn o bobl yn byw mewn gwledydd ble mae’r gwibgymalwst yn endemig (Sefydliad Iechyd y Byd, 2009, 2012).
Mae nifer y colledion oherwydd clefydau a drosglwyddir gan drogod rhwng US$13.9 biliwn – sef US$18.7 biliwn bob blwyddyn. Mae dros 800 miliwn o wartheg dan fygythiad trogod yn gyson. Roedd cyfanswm y colledion blynyddol yn Tanzania gwerth oddeutu US$364 miliwn, gydag oddeutu 1.3 miliwn o wartheg wedi eu lladd (Kivaria, S. 2006. Trop Anim Health Prod. 38:291-9).
Roedd y ffaith y gallai’r mathau o M. anisopliae ladd plâu cnwd a fectorau haint yn gwneud y ffwng yn fwy dichonadwy yn fasnachol. Dylai hyn sicrhau rhanddeiliaid fod galw am y cynnyrch ac y gellid cyflawni hyn drwy gynhyrchiant lleol. Byddai creu diwydiant cartref i fasgynhyrchu’r ffwng yn creu cyfoeth a swyddi ond hefyd yn sicrhau cyflenwad o gynnyrch cynaliadwy ecogyfeillgar.
Cafodd tîm ymchwil ATBU, Bauchi, hyfforddiant dwys ar agweddau gwahanol ar reoli plâu pryfedol. Cawsant hyfforddiant o ran:
- Meithrin cyfryngau rheoli biolegol ffyngol yn acsenig
- Ynysu cyfryngau rheoli biolegol ffyngol gan ddefnyddio cyfryngau dethol
- Sgrinio cyfryngau gwahanol i ganfod y rhai nad oeddent yn ddrud ac sy’n cynhyrchu niferoedd da o frechlyn
- Cynhyrchu mwy o gyfryngau rheoli biolegol ffyngol
- Dylunio a chynnal profion maes a labordy
- Gwella effeithiolrwydd y cyfryngau rheoli biolegol ffyngol drwy eu defnyddio ar y cyd â chyfryngau eraill megis nematodau entomopathogenig
Gwnaed gwaith pellach o ran ynysu a chynhyrchu nematodau entomopathogenig
Nod 16 – Heddwch, cyfiawnder a sefydliadau cryfion
Heddwch, cyfiawnder a sefydliadau cryfion
Nod 9 – Diwydiant, arloesi a seilwaith
Dros sawl blwyddyn, mae ein tîm wedi bod yn rhan o ddylunio technoleg newydd ar gyfer y dyfodol gyda phobl mewn cyd-destunau yn yr India a Kenya lle mae adnoddau yn brin. Mae hi’n gymhelliant mawr yn hyn o beth i gynnwys y grwpiau hyn, sydd yn aml yn llai llythrennog, heb fynediad aml at gysylltiadau data, sy’n defnyddio prin unrhyw dechnoleg, ac sy’n wynebu cyfyngiadau eraill, yn y broses o lunio a phriodoli dyfeisiau a gwasanaethau. Mae hyn mewn cyferbyniad i’r hyn sy’n digwydd fel arfer mewn rhanbarthau o’r fath, pan fo technoleg o farchnadoedd traddodiadol (e.e., yn UDA ac Ewrop) yn “treiglo i lawr” wedi sawl blwyddyn. Yn rhan o’r gwaith hwn, rydym ni wedi archwilio’r rhwystrau posibl i un cyfrwng newydd o’r fath—y We Ffisegol—mewn cyd-destunau lle mae adnoddau yn brin ym Mumbai a Nairobi. Mae’r We Ffisegol yn system dywys ffynhonnell agored sy’n gweithio gyda Bluetooth. Y diben yw gallu cysylltu yn gyflym a di-rwystr â gwrthrychau ffisegol drwy gyfrwng gwe. Ein nod yw deall sut y gall y dechnoleg newydd hon o bosib fod yn gyfrwng i fasnachwyr manwerthu bychain yn yr ardaloedd hyn greu a lledaenu presenoldeb syml ar-lein drwy gyfrwng darlledu lleol. Mae’r gwaith hwn yn cysylltu â Nodau’r Cenhedloedd Unedig o leihau anghydraddoldeb (Nod 10) ac arloesi (Nod 9) ar gyfer datblygu cynaliadwy.
Manylion cyswllt:
Matt Jones (yr Adran Gyfrifiadureg)
matt.jones@abertawe.ac.uk
Jennifer Pearson
j.pearson@abertawe.ac.uk
Simon Robinson
s.n.w.robinson@abertawe.ac.uk
Thomas Reitmaier
thomas.reitmaier@abertawe.ac.uk
Systemau sain soffistigedig mewn mannau cyhoeddus yn slymiau’r India
Mae miliynau o gartrefi ledled y byd yn mwynhau mynediad at gynnwys a gwasanaethau digidol drwy gyfrwng unedau sain soffistigedig megis ‘Echo’ gan Amazon a system ‘Home’ Google. Mae deunydd hyrwyddo a fideos gan ddefnyddwyr eu hunain fel arfer yn dangos ystafelloedd sydd â llawer o adnoddau ynddynt, gyda seilwaith data a phŵer da. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chymunedau rhai o slymiau’r India, lle mae’r cartrefi yn gyfyng iawn fel rheol (ystafell neu ddwy), lle nad yw bron neb wedi clywed am WiFi cartref personol, lle mae’r seilwaith pŵer yn llawer mwy anwadal, ac adnoddau ariannol yn golygu nad oes modd cael unedau sain soffistigedig mewn cartrefi unigol. Wedi ein hysbrydoli gan y rhaglen bythau-rhyngrwyd “twll yn y wal”, rydym ni wedi dylunio ac adeiladu dwy system uned sain a’u gosod mewn mannau cyhoeddus a rhodfeydd yn un o slymiau mawr yr India. Roedd y prototeipiau hyn yn fodd i bobl a oedd yn cerdded heibio holi cwestiynau a chael naill ai atebion cyfrifiadurol yn syth neu atebion gan fodau dynol wedi oedi byr. Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â Nodau’r Cenhedloedd Unedig o ran lleihau anghydraddoldebau (Nod 10), addysg (Nod 4) ac arloesi (Nod 9) ar gyfer datblygu cynaliadwy.
Manylion cyswllt:
Matt Jones (yr Adran gyfrifiadureg)
matt.jones@abertawe.ac.uk
Jennifer Pearson
j.pearson@abertawe.ac.uk
Simon Robinson
s.n.w.robinson@abertawe.ac.uk
Thomas Reitmaier
thomas.reitmaier@abertawe.ac.uk
Dyluniad teithiol – yn cymell arloesi digidol drwy ffiniau cylch gwaith presennol dylunio prif ffrwd.
Mae “Dyluniwyd yng Nghaliffornia” yn ddatganiad brand a ddefnyddir gan weithgynhyrchwyr uwch-dechnoleg i ddynodi tarddle a rhagoriaeth moderniaeth ac arloesi digidol. Yn ein gwaith ni, rydym ni’n archwilio safbwyntiau dylunio athronyddol amgen i’r rhai y mae’r datganiad hwn yn eu hymgorffori drwy gyfrwng prosiect hirdymor aml-leoliad sy’n ceisio amrywio’r broses o greu’r dyfodol drwy weithio gyda chymunedau o ddefnyddwyr “newydd” mewn ardaloedd “datblygol”. Rydym ni’n dadlau y caiff technolegau digidol eu creu fel arfer drwy ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar boblogaethau’r “gwledydd datblygedig”, gan ragdybio set sylfaenol o arferion diwylliannol, argaeledd adnoddau a lefel o brofiad o dechnoleg nad ydynt yn gydnaws o gwbl â rhai defnyddwyr newydd. Rydym ni’n dadlau dros ddulliau cynhwysol o ddylunio technoleg ac yn cyflwyno’r cysyniad o ddyluniad teithiol; methodoleg sy’n pendilio rhwng cymunedau o ddefnyddwyr newydd mewn sawl rhanbarth, gan gymell arloesi digidol drwy ffiniau cylch gwaith presennol dylunio prif ffrwd. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn cyd-fynd â Nodau’r Cenhedloedd Unedig o ran lleihau anghydraddoldeb (Nod 10) a chynaliadwyedd (Nod 9) ar gyfer datblygu cynaliadwy, drwy gynnwys defnyddwyr yr anghofiwyd amdanynt fel arall yn y gwaith o gyd-greu technoleg y dyfodol.
Manylion cyswllt:
Matt Jones (Yr Adran Gyfrifiadureg)
matt.jones@abertawe.ac.uk
Jennifer Pearson
j.pearson@abertawe.ac.uk
Simon Robinson
s.n.w.robinson@abertawe.ac.uk
Thomas Reitmaier
thomas.reitmaier@abertawe.ac.uk
Datblygu ‘plaleiddiaid’ biolegol - Hyfforddiant a dysgu sgiliau technolegol er mwyn helpu unigolion mewn gwledydd sy’n datblygu i gaffael sgiliau newydd, datblygu diwydiannau cartref a defnyddio adnoddau yn fwy effeithiol.
Nod 10 – Llai o anghydraddoldebau
Y We Ffisegol yn Mumbai a Nairobi
Systemau sain soffistigedig mewn mannau cyhoeddus yn slymiau’r India
Dyluniad teithiol - yn cymell arloesi digidol drwy ffiniau cylch gwaith presennol dylunio prif ffrwd.
Datblygu ‘plaleiddiaid’ biolegol – gweler uchod
Nod 11 – Dinasoedd a chymunedau cynaliadwy
Gwaith maes yn Sikkim – gweler uchod
Sefydlogi ac adfer gweithfeydd metel segur – gweler uchod
Nod 12 – Defnyddio a chynhyrchu cyfrifol
Nanoddeunyddiau adnewyddadwy
Mae bio-olosg yn sgil-gynnyrch trawsffurfiad thermol biomas yn ynni neu fiodanwyddau gan ddefnyddio prosesau pyrolysis neu nwyeiddio. Ar y cyd â’r prosiect Beacon <http://www.swansea.ac.uk/ils/beacon/>, mae ein tîm yn defnyddio dadbolimeriseiddio bio-olosg fel dull cynaliadwy o gynhyrchu nanoddeunyddiau fflwroleuol o wahanol fathau o wastraff. Mae manteision niferus i drosi deunyddiau gwastraff yn nanoddeunyddiau gan gynnwys: arbedion rheoli ynni a gwastraff, a lleihau’r effaith amgylcheddol a’r ôl-troed carbon.
Manylion cyswllt:
S Lopez (Yr Adran Ffiseg) S.C.B.Lopez@abertawe.ac.uk
Defnyddio cregyn gwichiaid môr yn y maes cosmetig
Mae gweithfeydd prosesu pysgod cregyn yng Nghymru yn cynhyrchu niferoedd mawrion o wastraff cregyn. Mae rhyddhau’r gwastraff hwn i ddyfroedd lleol wedi dod yn fater rheoli amgylcheddol cynhennus, gyda rhai pobl sy’n byw ar y glannau yn ystyried ei fod yn andwyol i’r amgylchedd lleol ac i werthoedd eiddo. Mae Quay Fresh & Frozen Foods (QFFF), cwmni yng Nghei Newydd, yn fusnes bach a chanolig sy’n arbenigo mewn prosesu gwichiaid môr o ddalfeydd lleol. Mae’n cynhyrchu oddeutu 800 o dunelli o wastraff cregyn mâl bob blwyddyn. Mae cregyn mâl wedi eu defnyddio’n llwyddiannus mewn gwledydd eraill i wneud dyfeisiau hidlo dŵr, fel tymherwyr pridd, deunyddiau adeiladu ac yn gyfrwng i gydgrynhoi slwtsh. Mae SEACAMS 2 yn profi defnydd a chynhyrchion amgen wedi eu creu o wastraff cregyn.
Un defnydd posibl nad yw wedi’i astudio cyn hyn yw defnyddio cregyn yn lle microbeleni plastig. Mae gleiniau bychain yn elfen gyffredin mewn nifer o gynhyrchion cartref, ac mae eu rhyddhau wedi arwain at lygredd plastig eang yn yr amgylchedd. Mae’r DU a nifer o genhedloedd diwydiannol eraill wedi ymrwymo i leihau’n raddol y defnydd o microbeleni. Mae’n bosibl y gallai cregyn, o’u llunio i’r siâp a’r maint priodol (microgregyn), fod yn ddewis amgen amgylcheddol a chynaliadwy i wneud yr un swyddogaeth â microbeleni mewn sgrybiau croen ac ati. Oherwydd bod microbeleni yn ddeunydd artiffisial, gellir eu llunio i fod â phriodoleddau penodol. Mae cregyn gwichiad môr ar y llaw arall yn ddeunydd naturiol, ac mae yna derfyn ar y graddau y gellir eu haddasu. Amcan y prosiect hwn yw addasu cregyn gwichiaid môr yn fecanyddol i faint microsgopig ac archwilio eu priodweddau ffisegol a chemegol. Os oes modd defnyddio ‘microgregyn’ yn lle microbeleni mewn cynnyrch i’r cartref, gallai hynny arwain at batent newydd a chynnyrch masnachol newydd.
Gwyliwch Chiara Bertelli yn trafod hyn gyda’r BBC.
Manylion cyswllt:
Chiara Bertelli (Yr Adran Gwyddorau Biolegol) c.m.bertelli@abertawe.ac.uk
Nod 13 – Gweithredu o ran yr hinsawdd
Sefydlogi ac adfer gweithfeydd metel segur – gweler uchod
Mae gwaith ymchwil ar y gweill i ymchwilio i effaith byd cynhesach ar amryw o rywogaethau’r môr.
Targed 13.3 yw ‘Meithrin gwybodaeth a gallu i gyflawni heriau newid yn yr hinsawdd.’
Mae gwaith ymchwil ar y gweill i ddeall effaith byd cynhesach ar amryw o rywogaethau’r môr. Y tymheredd sy’n penderfynu ar ryw ymlusgiaid a rhai pysgod, sy’n golygu y bydd amgylchedd forol cynhesach yn arwain at gam-ystumio cymarebau rhyw. Er enghraifft, mae amgylchiadau deori cynhesach mewn nythod môr-grwbanod yn arwain at fwy o môr-grwbanod benywaidd. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod nifer o nythleoedd môr-grwbanod eisoes yn cynhyrchu cyfradd uchel o môr-grwbanod benywaidd (e.e. Ynys Sant Eustatius yn y Caribî) ac mai dim ond ambell draeth nythu sy’n cynhyrchu cymhareb gytbwys o fôr-grwbanod gwrywaidd: benywaidd: (h.y. Diego Garcia yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India). Mae gwaith arbrofol ar y gweill i ganfod ffyrdd rhad a syml i amddiffyn poblogaethau môr-grwbanod yn wyneb newid yn yr hinsawdd.
Deunydd cyfeiriol: Esteban et al. (2017) Adroddiadau Gwyddonol. Dolen: https://www.nature.com/articles/srep20339
Deunydd cyfeiriol: Laloe, Esteban et al. (2016) Journal of Experimental Marine Biology and Ecology. Dolen: https://doi.org/10.1016/j.jembe.2015.09.015
Manylion cyswllt:
Nicole Esteban (Yr Adran Gwyddorau Biolegol) N.Esteban@abertawe.ac.uk
Nod 14 – Bywyd o dan y dŵr
Hyrwyddo dyframaeth gadarn – gweler uchod
Monitro dolydd morwellt – Cefnfor yr India a ledled y byd
Targed 14.2 o’r Nod hwn yw ‘Erbyn 2020, rheoli a diogelu ecosystemau morol ac arfordirol i osgoi effeithiau niweidiol sylweddol, gan gynnwys drwy eu gwneud yn fwy cadarn, a gweithredu dros eu hadferiad er mwyn cael cefnforoedd iach a chynhyrchiol.’
Mae’r targed hwn yn seiliedig ar ddealltwriaeth o leoliad a graddau ecosystemau morol pwysig. Nid yw llawer o Gefnfor yr India wedi ei archwilio oherwydd yr ynysoedd pellennig a dyfnder yr ecosystemau morol. Mae gwaith ymchwil ar y gweill i ganfod a nodi lleoliadau’r dolydd morwellt eang sy’n gysylltiedig â chreigresi cylchynysoedd yng Ngorllewin Cefnfor yr India gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf o ran olrhain drwy loeren (Fastloc-GPS) ac arolygon fideo tanddwr o bell.
Deunydd cyfeiriol : Hays, Esteban et al. (2018) Frontiers in Marine Science. Dolen : https://doi.org/10.3389/fmars.2018.00009)
Deunydd cyfeiriol : Esteban et al. (2018) Marine Pollution Bulletin. Dolen: https://doi.org/10.1016/j.marpolbul.2018.03.018
Manylion cyswllt:
Nicole Estaban (Yr Adran Gwyddorau Biolegol) N.Esteban@abertawe.ac.uk
Dilyn môr-grwbanod gwyrddion
Ar y cyd â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, mae ymchwilwyr yn dilyn môr-grwbanod gwyrddion o Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India i diroedd pori pell yn Kenya, Madagascar, Maldives a’r Seychelles. Un o amcanion cyfredol y prosiect ymchwil hwn yw cynnal arolwg o’r casgliadau o bysgod mewn dolydd morwellt a ddarganfuwyd yn ddiweddar. Mae tiroedd pori môr-grwbanod gwyrddion ger cylchynysoedd y Seychelles wedi eu defnyddio i lunio polisi Ardal Forol Warchodedig y Seychelles, a grëwyd yn ddiweddar.
Manylion cyswllt:
Nicole Estaban (Yr Adran Gwyddorau Biolegol) N.Esteban@abertawe.ac.uk
Gwaith cadwraeth yn y warchodfa forol yng Nghefnfor yr India
Targed 14.5 yw ‘Erbyn 2020, gwarchod o leiaf 10 y cant o ardaloedd arfordirol a morol, yn unol â chyfraith genedlaethol a rhyngwladol ac yn seiliedig ar yr wybodaeth wyddonol orau sydd ar gael.’
Mae ymchwiliwr ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithio mewn amryw o Ardaloedd Morol Gwarchodedig ledled y byd, gan gynnwys un o’r AMG mwyaf, Gwarchodfa Forol Chagos yng Ngorllewin Cefnfor yr India i helpu â pholisi cadwraeth. Mae gwaith cadwraethol wedi amrywio o weithio gyda chymunedau lleol i gynyddu manteision AMG i’r bobl hynny sy’n ennill eu bywoliaeth yno (ymchwil yn y Caribî wedi ei ariannu gan Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol), sefydlu cronfa ymddiriedolaeth cadwraeth hirdymor yng Ngharibî’r Iseldiroedd, gan sefydlu buddion AMG ar gyfer pysgodfeydd (AMG Caribî’r Iseldiroedd) a deall symudiad bywyd gwyllt morol o fewn a’r tu allan i AMG (Y Caribî, Cefnfor yr India). Mae gwaith ymchwil wedi bod yn ganllaw i lunio cynlluniau rheoli ar gyfer AMG ac rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i ddatblygu’r cynllun rheoli ar gyfer Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India.
Deunydd cyfeiriol: Hays, Esteban et al. (2014) Conservation Biology. Dolen: <https://doi.org/10.1111/cobi.12325>
Deunydd cyfeiriol: Esteban et al. (2016) Marine Biology. Dolen: https://doi.org/10.1111/cobi.12325
Deunydd cyfeiriol: Christiansen, Esteban et al. (2017) Marine Biology. Dolen: https://doi.org/10.1007/s00227-016-3048-y
Manylion cyswllt:
Nicole Esteban (Yr Adran Gwyddorau Biolegol) N.Esteban@abertawe.ac.uk
Nod 15 – Bywyd ar y tir
Defnyddio algâu i hyrwyddo cynaliadwyedd amaethyddol yn yr economi gylchol
Datblygu ‘plaleiddiaid’ biolegol
Nod 17 – Partneriaethau ar gyfer y Nodau
Partneriaethau ar gyfer y Nodau