Persbectif byd-eang
Mae'r Coleg Gwyddoniaeth yn cynnig croeso cynnes i fyfyrwyr Rhyngwladol ac UE. Mae myfyrwyr o 80 o wledydd ledled y byd wedi dewis astudio ein graddau israddedig, ôl-raddedig ac ymchwil.
Mae gennym staff academaidd byd-eang sy'n dod o wledydd, gan gynnwys Tsieina, India, yr Eidal, yr Iseldiroedd, Pacistan, Gwlad Pwyl, Rwsia, Sbaen, UDA a Wcráin.
Amgylchedd gefnogol
Mae'n gam mawr i symud i wlad arall i astudio ac mae'r staff o fewn y Coleg Gwyddoniaeth yn gweithio'n agos gyda staff o Adrannau eraill ar draws y Brifysgol i sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth academaidd a bugeiliol gorau i'ch galluogi i fwynhau'ch amser yn wirioneddol gyda ni. Mae gennym aelodau o staff a fydd yn eich helpu gydag ymholiadau a phroblemau bob dydd a byddwch yn cael tiwtor personol a fydd yn eich helpu gydag ymholiadau academaidd megis dewis y modiwlau cywir i chi, cyngor a chymorth ar gyfer aseiniadau ac arholiadau a mwy.
Gwneud gwahaniaeth
Mae'r Coleg Gwyddoniaeth yn ymroddedig i 'wneud gwahaniaeth' ar draws y byd, ac rydym yn chwilio am fyfyrwyr sy'n rhannu'r angerdd hon. Un ffordd o wneud hyn yw cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Mae llawer o brosiectau a gynhelir gan staff a myfyrwyr yng Ngholeg Gwyddoniaeth yn cyfrannu'n weithredol at lwyddiant y nodau. Darganfyddwch fwy am sut yr ydym yn helpu yn UNSDG
Darganfyddwch fwy ar ein tudalennau rhanbarthol: