Cewch absenoldeb rhiant os oes angen i chi ofalu am eich plentyn, a gall y fath absenoldeb fod o gymorth wrth reoli'ch trefniadau gofal plant.
- Mae absenoldeb rhiant yn absenoldeb di-dâl, ac mae ar gael am bob plentyn ar eich aelwyd.
- I fod yn gymwys i gael absenoldeb rhiant:
- rhaid i'r plentyn fod yn iau na 18 oed
- rhaid eich bod wedi gweithio i Brifysgol Abertawe am gyfnod di-dor o flwyddyn neu fwy
- rhaid bod eich enw chi ar dystysgrif eni neu dystysgrif fabwysiadu'r plentyn
- rhaid bod gennych chi gyfrifoldeb rhiant am y plentyn - Cewch hyd at 18 wythnos o absenoldeb heb dâl.
- Fel arfer, cewch hyd at 4 wythnos mewn blwyddyn, a dylid cymryd yr absenoldeb hyn mewn blociau.
- Os dymunwch gyflwyno cais am absenoldeb rhiant, cewch wneud hynny trwy Bennaeth eich Adran neu Ysgol gan roi 21 diwrnod o rybudd fan lleiaf, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig neu amgylchiadau brys, gan nodi dyddiad cychwyn a dyddiad gorffen yr absenoldeb.
Gwybodaeth bellach a dogfennau i'w lawrlwytho