Trefniadau absenoldeb sy'n ystyriol o deuluoedd
Yn unol â'n hymrwymiad i sicrhau cydbwysedd bywyd a gwaith da i staff, mae gan y Brifysgol amrywiaeth o bolisïau sy'n ystyriol o deuluoedd sy'n darparu ar gyfer trefniadau gwaith hyblyg ac absenoldeb ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldebau rhiant.
Dyma rai o'r trefniadau gwaith sydd ar waith i’ch helpu.
Absenoldeb Mamolaeth
Caiff menywod beichiog dâl mamolaeth yn unol â pholisi mamolaeth y Brifysgol. Am gyfarwyddyd a manylion am eich hawliau o ran absenoldeb mamolaeth a thâl mamolaeth, cewch ragor o wybodaeth yma:
Absenoldeb Mamolaeth
Absenoldeb Tadolaeth/Partner
Caiff tadau neu bartneriaid gyfnod o absenoldeb tadolaeth ar gyflog llawn. Cyfnod absenoldeb tad neu bartner yw pythefnos, ond ni chaniateir ei gymryd ond mewn bloc o bythefnos neu ddau floc o wythnos yr un. Am ragor o wybodaeth am absenoldeb tadolaeth/ partner, cymhwyso, a'ch hawliau, mae ein cyfarwyddyd a'r weithdrefn ar gael yma:
Absenoldeb Tadolaeth/Partner
Rhannu Absenoldeb Rhieni
Os ydych yn disgwyl plentyn ar ôl 5/4/15, neu os ydych yn mabwysiadu plentyn ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd gennych chi a'ch partner hawl i rannu 52 wythnos o absenoldeb rhiant yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae'n bosibl y bydd gennych hawl i dâl rhieni wedi'i rannu am ran neu'r cyfan o'r cyfnod yr ydych am fod yn absennol. Am ragor o wybodaeth am rannu absenoldeb rhieni, cymhwyso, a'ch hawliau, mae ein cyfarwyddyd a'r weithdrefn ar gael yma:
Rhannu Absenoldeb Rhieni
Absenoldeb Rhiant
Mae absenoldeb rhiant yn cynnig hawl i rieni cymwys gymryd absenoldeb di-dâl i ofalu am eu plant neu i wneud trefniadau o ran eu lles. Am ragor o wybodaeth, dyma'r weithdrefn ar absenoldeb rhiant:
Absenoldeb Rhiant
Gweler hefyd manylion ein Gweithio Hyblyg
Absenoldeb Mabwysiadu
Mae absenoldeb mabwysiadu ar gael i rieni sy'n bodloni'r meini prawf. Am ragor o fanylion, gweler cyfarwyddyd a gweithdrefn y Brifysgol ar absenoldeb mabwysiadu:
Absenoldeb Mabwysiadu
Absenoldeb i Ofalu am eich Dibynyddion
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu trefniadau gwaith hyblyg i staff lle mae angen iddynt gymryd amser i ffwrdd i ddelio â sefyllfa nas rhagwelwyd neu argyfwng yn ymwneud â dibynnydd. Am ragor o wybodaeth am yr amgylchiadau lle caniateir absenoldeb o'r gweithle, gweler ein canllaw a'r weithdrefn:
Absenoldeb i Ofalu am eich Dibynyddion