Croeso i Brifysgol Abertawe

Delwedd o'r neuadd fawr ar gampws y Bae

Croeso

Croeso i Brifysgol Abertawe.

Sefydlwyd y Brifysgol ym 1920, ac mae wedi'i lleoli mewn parcdir â golygfeydd ar draws Bae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr. Gyda dau leoliad, Campws Parc Singleton a Champws y Bae, mae'r Brifysgol yn cynnig ystod helaeth o raglenni addysg barhaus. Ail ddinas Cymru yw Abertawe, ac mae ganddi ystod lawn o gyfleusterau cymdeithasol, diwylliannol a chwaraeon, a chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog; mae'n 192 milltir i Lundain, llai na thair awr ar y trên, ac mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn llai nag awr i ffwrdd. Cewch ragor o wybodaeth am hanes, gweledigaeth a gwerthoedd y brifysgol yma.

Dolenni Defnyddiol i Staff Newydd

Isod, cewch ddolenni defnyddiol i wybodaeth ar gyfer staff newydd, megis yr hyn y mae angen i chi ei wneud pan fyddwch yn cychwyn yn eich swydd yn y Brifysgol, yn ogystal â manylion am ble i fynd am wasanaethau gwahanol ar y ddau gampws.

Rydym wedi ymrwymo i wefan ddwyieithog. Rydym yn y broses o gyfieithu holl ddogfennau a pholisïau Adnoddau Dynol ac yn diweddaru nifer fawr o’n tudalennau gwe o ganlyniad. Rydym yn cydweithio gyda’r Swyddog Polisi Iaith Gymraeg a’r Uned Gyfieithu ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd wrth i ni barhau i wella gohebiaeth ddwyieithog yr adran.

Rydym yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i staff presennol ac i reolwyr ar ein mewnrwyd, a byddwch yn cael mynediad at y fewnrwyd pan fyddwch yn dechrau eich rôl.

Preifatrwydd Data ac Amodau a Thelerau

Mae ein tudalen ar Breifatrwydd Data ac Amodau a Thelerau yn cynnig rhagor o wybodaeth ar gyfer staff newydd.