Wedi’i ddatblygu ar y cyd â chydweithwyr Gwasanaethau Academaidd a Phroffesiynol ar draws y Brifysgol, rydyn ni’n falch o gyflwyno Disgwyliadau Arweinyddiaeth Prifysgol Abertawe. 

Mae ein disgwyliadau arweinyddiaeth yn llywio’r ffordd rydyn ni’n gweithio, yn newid diwylliant, ac yn ffurfio’r ffordd rydyn ni’n ymddwyn. Mae byw yn unol â’r rhain yn golygu bod yn awtonomaidd ond yn gyfrifol, yn bwrpasol, ac yn ddewr, ac mae’n cynnwys creu diwylliant cadarnhaol, agored lle y gall pobl gyflawni eu potensial.