Os ydych chi'n gwneud cais am swydd wag broffesiynol neu gymorth, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddarllen ein tudalennau Gwerthoedd y Gwasanaethau Proffesiynol a Disgwyliadau Arweinyddiaeth. Nod ein proses recriwtio yw gwerthuso ceisiadau yn unol â'r gwerthoedd a meini prawf eraill sy'n berthnasol i'r swydd ddisgrifiad. Mae hyn wedi'i hatodi i'r hysbyseb swydd a bydd yn amlinellu'r math o dystiolaeth y dylech chi ei darparu yn eich cais.
Bydd y panel a fydd yn cyfweld â chi'n chwilio am dystiolaeth eich bod yn bodloni'r meini prawf ar bob pwynt o'r manylebau person/swydd ac fe'ch cynghorir yn gryf i ddefnyddio enghreifftiau penodol ar gyfer pob pwynt.
Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi strwythuro eich enghreifftiau gan ddefnyddio techneg STAR. Ffordd syml yw hon i'ch helpu i ateb y cwestiynau ar y ffurflen gais ac yn y cyfweliad, gan ddefnyddio tystiolaeth ac enghreifftiau go iawn i ddangos eich sgiliau inni.
Mae STAR yn fyrfodd Saesneg ar gyfer Sefyllfa (Situation), Tasg (Task), Gweithrediad (Action) a Chanlyniad (Result).
Sut gallaf ddefnyddio STAR?
S – Sefyllfa
Gallwch osod yr olygfa a rhoi'r cefndir a'r cyd-destun i'ch ateb inni. Ceisiwch fod yn benodol yn eich disgrifiad.
T – Tasg
Disgrifiwch y dasg yr oeddech chi'n gyfrifol am ei chyflawni yn y sefyllfa a'r hyn yr oedd angen ichi ei wneud neu ei gwblhau er mwyn ei chyflawni. Canolbwyntiwch ar y rhan yr oeddech chi'n gyfrifol amdani a byddwch yn gryno. Cofiwch gynnwys unrhyw heriau yr oeddech chi'n eu hwynebu.
A – Gweithrediad
Dyma’ch cyfle i ddweud wrthym yr hyn a wnaethoch chi i gael canlyniad da. Rydym yn chwilio am y rhan y gwnaethoch chi ei chwblhau. Gan ddefnyddio’ch enghraifft benodol, dangoswch inni’r sgiliau a ddefnyddioch chi ym mhob cam, e.e. cynllunio, cymhelliad, cyfathrebu, datrys problemau, arweinyddiaeth etc, ond sicrhewch ei bod yn berthnasol i’r cwestiwn a meini prawf y swydd ddisgrifiad.
R - Canlyniad
Dangoswch ganlyniad y sefyllfa, a’ch cyfraniad penodol chi. Gallwch hefyd ddweud wrthym yr hyn a ddysgoch chi neu os byddech chi’n gwneud pethau’n wahanol y tro nesaf.