EIN HYMRWYMIAD I STAFF A MYFYRWYR O LEIAFRIFOEDD ETHNIG

Logo - Race Equality Charter

Mae Prifysgol Abertawe’n falch o fod yn aelod o’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol.

Mae aelodaeth o’r Siarter yn rhoi fframwaith i ni i’n helpu i nodi a myfyrio ar rwystrau sefydliadol a diwylliannol a allai effeithio ar staff a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig. O hyn (a’n mesurau eraill o ran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant), rydym yn datblygu mentrau ac atebion i gyflawni newid cadarnhaol ar draws y Brifysgol.

Mae fframwaith y Siarter Cydraddoldeb Hiliol yn cynnwys y canlynol ac yn effeithio’n gadarnhaol arnynt:

  • Staff proffesiynol a gweinyddol
  • Staff academaidd
  • Dilyniant a chyrhaeddiad myfyrwyr
  • Amrywiaeth y cwricwlwm

 

BETH YW’R SIARTER CYDRADDOLDEB HILIOL?

Rheolir y Siarter Cydraddoldeb Hiliol gan yr Uned Her Cydraddoldeb, a’i nod yw gwella cynrychiolaeth, dilyniant a llwyddiant staff a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig mewn addysg uwch. Nod y siarter yw ysbrydoli ymagwedd strategol, er mwyn cyflawni newidiadau diwylliannol a systemig a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i staff a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig.

EGWYDDORION Y SIARTER CYDRADDOLDEB HILIOL

Mae’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol yn seiliedig ar bum prif egwyddor:

  1. Mae anghydraddoldebau hiliol yn broblem sylweddol mewn addysg uwch. Nid yw anghydraddoldeb hiliol yn ei amlygu ei hun mewn digwyddiadau prin ac amlwg o angenrheidrwydd. Mae hiliaeth yn nodwedd feunyddiol o gymdeithas y DU ac mae anghydraddoldeb hiliol yn ymddangos mewn sefyllfaoedd, prosesau ac ymddygiad beunyddiol.
  2. Nid yw addysg uwch y DU yn gallu cyflawni ei photensial llawn oni bai y gall elwa o ddoniau’r boblogaeth gyfan a nes bod unigolion o bob cefndir ethnig yn gallu elwa’n gyfartal o’r cyfleoedd mae’n eu cynnig.
  3. Wrth ddatblygu atebion i ddatrys anghydraddoldeb hiliol, mae’n bwysig anelu at newid diwylliant sefydliadol yn y tymor hir, gan osgoi model diffyg lle mai newid yr unigolyn yw’r nod.
  4. Nid yw staff a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig yn grŵp homogenaidd. Mae profiadau a chanlyniadau o addysg pobl o wahanol gefndiroedd ethnig yn amrywio ac mae angen ystyried y cymhlethdod hwnnw wrth ddadansoddi data a datblygu camau gweithredu.
  5. Mae gan bob unigolyn fwy nag un hunaniaeth a dylid ystyried lle mae’r hunaniaethau gwahanol hynny’n rhyngblethu lle bynnag y bo modd.

Fel aelod o’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol, mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i lynu wrth yr egwyddorion hyn wrth ymdrin â chydraddoldeb hiliol a’n diwylliant sefydliadol.

CYSYLLTIADAU

Arweinydd y Cyflwyniad i’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol: cysylltwch â’n tîm Cyfle Cyfartal.

Tîm Hunanasesu’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol: Y Tîm Hunanasesu yn cynnwys aelodau o Adnoddau Dynol y tîm Cydraddoldeb a chynrychiolwyr o bob rhan o’r brifysgol.