Mae gan Brifysgol Abertawe nifer o gynlluniau ac adroddiadau Cyfle Cyfartal. Mae'r dudalen hon yn cynnwys yr holl ddogfennau hyn yn eu fformatau amrywiol. Os hoffech dderbyn copi o unrhyw rai o'r dogfennau hyn mewn fformat gwahanol, neu os oes gennych ymholiadau, e-bostiwch y tîm Cyfle Cyfartal.

Gellir gweld polisïau a gweithdrefnau Cyfle Cyfartal ar fewnrwyd y staff.

ADRODDIAD CYDRADDOLDEB BLYNYDDOL PRIFYSGOL ABERTAWE

Mae'r tîm Cyfle Cyfartal yn llunio adroddiad blynyddol trylwyr bob blwyddyn sy'n cael ei gymeradwyo gan Gyngor y Brifysgol ac yna ei gyhoeddi’n allanol. Mae'r adroddiad llawn yn cynnwys gwybodaeth am bob un o'r naw nodwedd warchodedig.

CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL PRIFYSGOL ABERTAWE

Ymgynghorwyd ac ymgysylltwyd yn helaeth â staff, myfyrwyr ac aelodau'r gymuned ynghylch Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Drwy'r Cynllun hwn, bydd y Brifysgol yn ceisio dangos sut fel Prifysgol rydym yn ymrwymedig i degwch ym mhob agwedd ar waith y Brifysgol. Rydym hefyd wedi pennu cyfres o ganlyniadau cydraddoldeb a chynllun gweithredu, a fydd yn dangos sut mae'r Brifysgol yn bwriadu hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb, gan greu gwahaniaeth cadarnhaol ar gyfer myfyrwyr a staff sy'n astudio ac yn gweithio yn y Brifysgol.

ADRODD AR Y BWLCH CYFLOG RHWNG Y RHYWIAU

Yn 2017, cyflwynwyd deddfwriaeth newydd ynghylch adrodd am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer sefydliadau yn Lloegr. Mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi dyletswydd ar sefydliadau i adrodd, mewn modd penodol, am eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac i gyhoeddi eu canlyniadau ar wefan gov.uk.

Er nad oes dyletswydd arnom i adrodd yn unol â'r ddeddfwriaeth hon, rydym wedi dewis gwneud hyn oherwydd dymunwn fod yn dryloyw a gwneud ein canlyniadau yn haws eu deall a'u rhannu.

URDDAS YN Y GWEITHLE AC WRTH ASTUDIO

Mae Polisi Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio'r Brifysgol yr un mor berthnasol i fyfyrwyr a staff. Dylai aelodau'r Brifysgol gael eu trin â pharch ac urddas a'u hamddiffyn rhag aflonyddu a bygythiadau yn y gweithle ac wrth astudio.

Polisi Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio  / Polisi Cyfryngu / Am restr lawn o Ymgynghorwyr Aflonyddu, e-bostiwch cyfle cyfartal.

POLISÏAU SY'N YSTYRIOL O DEULUOEDD

Trefniadau Absenoldeb sy'n Ystyriol o Deuluoedd / Trefniadau Gweithio Hyblyg 

Gellir gweld ein holl bolisïau a gweithdrefnau eraill ar gyfer staff ar fewnrwyd y staff