CYDRADDOLDEB, AMRYWIAETH A CHYNHWYSIANT

Darllenwch am ein tîm a’n gwaith

pobl

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 yn amlinellu gweledigaeth ein Prifysgol ac yn adlewyrchu ei gwerthoedd, wrth i ni ymdrechu i gyflawni rhagoriaeth o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein holl weithgareddau.

Rydym yn ymdrechu i wneud mwy na chydymffurfio â rheoliadau yn unig, felly mae ein hadroddiadau mor fanwl â phosib, gan ragori yn aml ar y gofynion cyfreithiol. Credwn y bydd ein gweithgarwch yn y maes hwn nid yn unig yn gwella amgylcheddau i'n staff a'n myfyrwyr, ond hefyd yn cefnogi newid diwylliannol.

Mae ein tîm cyfeillgar yn cynorthwyo’r Brifysgol i sicrhau bod tegwch yn rhan annatod o’n holl weithgareddau, gan sicrhau ymagwedd gynhwysol at oedran, ethnigrwydd, hunaniaeth rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd a chred, tueddfryd rhywiol a rhyw.

CYSYLLTU Â'N TÎM CYDRADDOLDEB, AMRYWIAETH A CHYNHWYSIANT

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym Mhrifysgol Abertawe, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar a chymwynasgar

E-bostiwch y tîm cydraddoldeb

Y CYNLLUNIAU A’R ADRODDIADAU CYDRADDOLDEB DIWEDDARAF