PRIFYSGOL ABERTAWE – UN O’R 100 O GYFLOGWYR GORAU

Stonewall 2023

Flag - Baner

Mae Prifysgol Abertawe’n hollol ymrwymedig i gydraddoldeb LGBT+

Rydym yn ymdrechu i wella a mesur ein llwyddiannau ym maes cydraddoldeb LGBT+ er mwyn sicrhau bod staff a myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel ac wedi’u derbyn yn y gwaith ac yn eu hastudiaethau.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewal sy’n rhoi i ni offeryn meincnodi diffiniol i fesur ein cynnydd o ran cynnwys pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn y gweithle.

Yn 2023, mae Prifysgol Abertawe wedi gwella ei safle o 26ain i 12fed, sef ein safle uchaf erioed yn nhabl cynghrair cyflogwyr y DU. Mae’n bleser o’r mwyaf gennym ni ein bod ni hefyd wedi cynyddu ein safle ymhlith cyflogwyr o’r sector addysg sy’n cymryd rhan yn y Mynegaio 5ed i 1ef. Rydym ni wedi cadw erbyn dyfarniad safon Aur, sy’n cydnabod ein bod ni wedi gwreiddio cydraddoldeb LHDT+ ym meysydd craidd ein gwaith ar y lefelau uchaf.

 

BETH YW LGBT+

Mae’r term LGBT yn cyfeirio at bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws

Lesbiad: menyw a ddenir gan fenywod eraill
Hoyw: dyn a ddenir gan ddynion eraill
Deurywiol: unigolyn a ddenir gan bobl waeth beth yw eu rhywedd 
Traws: unigolyn mae ei rywedd yn wahanol i’r rhyw a ddynodwyd iddo adeg geni. 

Mae’r (+) yn cyfeirio at hunaniaethau rhywiol a rhyweddol eraill, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain) panrhywiol, anrhywiol, rhyngrywiol, yn cwestiynu, queer, genderqueer, amlrywiol.

EIN CYFLAWNIADAU A’N CYDNABYDDIAETH LGBT+

Rydym wedi cyflawni nifer o wobrau gwych ers i ni ymuno â’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle ac rydym yn falch o gyflawni’r safle:

Logos showing awards for LGBT inclusivity in Welsh

Cymerwch Ran

Anfonwch e-bost i Rwydwaith LGBT+ y Brifysgol, os hoffech chi ddod yn aelod o'r rhwydwaith a/neu Raglen y Cynghreiriaid.