Mae ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn lleihau ac mae wedi bod ers peth amser, ond mae angen i ni ddal ati i weithio'n galed a'i leihau ymhellach, yn enwedig wrth i ni barhau i ehangu.
Rydym yn chwilio'n barhaus am ffyrdd o wneud newidiadau cadarnhaol, ac yn ymdrechu i ddysgu oddi wrth ein gilydd a phob cyfle a nodwn. Dyma rai o'r meysydd rydym wedi bod yn canolbwyntio arnynt yn ddiweddar:
Cefnogi ein Hacademyddion benywaidd
Rydym yn ymdrechu i wneud popeth y gallwn i alluogi ein holl gydweithwyr academaidd i weithio gan gyflawni eu potensial llawn. I'r perwyl hwn, rydym yn adolygu ffactorau cyfrannol yn barhaus er mwyn sicrhau bod ein hacademyddion benywaidd, yn benodol, yn teimlo'n hyderus i gyflwyno cais am ddyrchafiad academaidd.
Mae ein data yn dangos cynnydd o 96% yng nghyfanswm yr academyddion benywaidd a ddyrchafwyd ar bob lefel, o Ddarlithwyr i Athrawon, rhwng 2015 a 2019. Mae hyn yn gyflawniad rhagorol. Fodd bynnag, mae menywod wedi'u tangynrychioli o hyd ar lefel Athro yn benodol, sy'n effeithio'n negyddol ar ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Rydym yn gweithio i wella hyn ac wedi gwneud rhywfaint o gynnydd da: cynnydd o 29% yn nifer yr ymgeiswyr benywaidd llwyddiannus ar lefel Athro, yn ystod yr un cyfnod amser. Mae'r cynnydd hwn wedi gwella canran gyffredinol yr athrawon benywaidd yn ein gweithlu, sydd wedi cynyddu o 13% yn 2014 i 23% yn 2019.
Yn ogystal â buddsoddi yn ein Llwybrau Gyrfa Academaidd, rydym yn meincnodi ein hymagwedd at gyflogau teg yn barhaus. O ganlyniad, gwnaethom gynyddu ein cyflog sylfaenol ar gyfer athrawon yn 2019. Mae 40% o'n hathrawon benywaidd ac 13% o'n hathrawon gwrywaidd wedi elwa ar y cynnydd.
Datblygiad a Chynnydd Personol
Mae ein system Adolygiad Datblygiad Proffesiynol (PDR), sy'n arwain y sector, yn galluogi staff i gael sgwrs ystyrlon a ffurfiol ynghylch eu datblygiad personol. Cynhelir adolygiadau datblygiad proffesiynol yn ogystal â'n mentrau datblygu eraill, megis ein rhaglen fentora, ac mae 99% o'n staff wedi cwblhau eu hadolygiad datblygiad proffesiynol blynyddol dros y saith mlynedd diwethaf.
Ar ben ein hadolygiadau datblygiad proffesiynol, mae ein proses adborth 360 sefydledig yn cydnabod rôl hollbwysig ein harweinwyr wrth gyflawni canlyniadau drwy ein pobl. Mae hyn yn cyfrannu at ein mentrau ehangach i gefnogi cydweithwyr benywaidd sydd mewn swyddi gradd 9 ac uwch. Ers 2012, mae nifer y menywod mewn rolau gradd 9 ac uwch, yn y Gwasanaethau Proffesiynol, wedi mwy na dyblu, gan gynrychioli 52% o'r grŵp hwn yn 2019.
Rydym hefyd yn buddsoddi mewn rhaglenni datblygu gyrfa a hyfforddiant er mwyn ein cynorthwyo'n benodol i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Er enghraifft, rydym yn falch o gynnig y rhaglen arweinyddiaeth Aurora i'n cydweithwyr benywaidd. Mae Aurora yn rhoi cyfle i fenywod ddylanwadu ar eu sefydliadau a datblygu sgiliau arweinyddiaeth sydd, yn ei dro, yn eu cefnogi i symud ymlaen at rolau ar raddau uwch.
Athena Swan
Rydym yn un o 18 yn unig o brifysgolion y DU, a'r unig un yng Nghymru, sydd wedi ennill Gwobr Sefydliadol Arian Athena SWAN. Mae'r achrediad yn cydnabod datblygiadau o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn perthynas â chynrychiolaeth, cynnydd a llwyddiant i bawb.
Yn ogystal â hyn, mae gan dair o'n hadrannau Wobrau Arian (Peirianneg, y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a Meddygaeth) ac mae tair wedi ennill gwobrau Efydd (Ffiseg, Rheolaeth a'r Biowyddorau).
Mae ein cynlluniau gweithredu Athena SWAN yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i gydraddoldeb o ran cyflog, gan gynnwys gwella ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Mentora, Rhwydweithio a Digwyddiadau
Ochr yn ochr â'n rhaglenni a'n cynlluniau ffurfiol, mae'r Brifysgol yn rhoi pwyslais sylweddol ar fagu hyder menywod yn y gweithle, boed hynny drwy hwyluso cyfleoedd rhwydweithio, darparu mentora, cynnal cyfresi blynyddol, megis ein cyfres Menywod sy'n Ysbrydoli, neu annog grwpiau cymorth a arweinir gan staff, rydym yn annog pawb i gyfrannu at y nod.
Gwelwyd nifer o ddigwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal ar draws y Brifysgol yn 2019 hefyd. Un o'r uchafbwyntiau oedd croesawu Hillary Rhodham Clinton fel y prif westai yn ein panel trafod proffil uchel, Menywod Mentrus Cymru. Denodd y digwyddiad hwn, a gadeiriwyd gan y newyddiadurwr Sky News, Anna Jones, gynulleidfa o 600 i'r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae. Talodd Mrs Clinton deyrnged i'r menywod a'i hysbrydolodd drwy gydol ei gyrfa, ac wedyn trafododd aelodau'r panel y menywod a oedd wedi dylanwadu ar eu gyrfaoedd nhw.
Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac yn cynnal nifer o weithgareddau bob blwyddyn i'w ddathlu, ond rydym hefyd yn gweithio'n galed i sicrhau bod cydraddoldeb i bawb - gan gynnwys menywod - wrth wraidd ein holl weithgareddau.
Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith:
Rydym eisiau i bob cydweithiwr gael y cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn buddsoddi yn ein pecyn buddion a lles, sy'n cynnwys ein trefniadau gweithio hyblyg a gwyliau sy'n ystyriol o deuluoedd. Trwy wneud hyn, rydym yn gobeithio cael gwared ar unrhyw rwystrau a allai fel arall atal pobl rhag cyflawni eu potensial yn llawn, beth bynnag yw eu rhywedd a'u hymrwymiadau bywyd.