SEFYDLIAD Â GWOBR ARIAN ATHENA SWAN

ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywia

Athena Swan Logo

Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i ymdrin â chydraddoldeb rhwng y rhywiau a’i hyrwyddo, ar bob lefel yn ein sefydliad. Mae gennym Wobr Sefydliadol Arian Athena Swan ar hyn o bryd, ac Abertawe yw’r unig Brifysgol y tu allan i’r Grŵp Russell yng Nghymru i gyflawni hyn.

ATHENA SWAN YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Rydym wedi bod yn aelod balch o Siarter Athena SWAN ers 2008. Mae hyn wedi ein cynorthwyo i nodi’r meysydd ar gyfer gweithredu cadarnhaol, ac i adnabod a rhannu arfer da ar draws y Brifysgol.

Dyfarnwyd statws Efydd inni yn gyntaf yn 2009, ac fe’i hadnewyddwyd yn 2013. Yn 2017, roeddem yn llwyddiannus yn ein Swansea University Athena SWAN Silver Application a arweiniodd at ein gwobr sefydliadol Arian, sydd gennym o hyd. 

Rydym yn hollol ymroddedig i gydraddoldeb rhyweddol ac rydym yn parhau i annog a chefnogi adrannau i ymgeisio am ddyfarniadau unigol, y mae gennym dri dyfarniad Arian a phum dyfarniad Efydd ar hyn o bryd, yn ogystal â chynnal ffocws ar ein hegwyddorion dyfarnu sefydliadol. 

 

BETH YW ATHENA SWAN?

Cynhelir Siarter Athena SWAN gan Advance HE. Mae’n cydnabod y gwelliannau ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau trwy gynrychiolaeth, cynnydd a llwyddiant i bawb. Mae Siarter Athena SWAN yn seiliedig ar ddeg prif egwyddor a thrwy ein hymrwymiad iddi, rydyn ni’n ymgorffori’r egwyddorion hyn yn ein polisïau, ein harferion, ein cynlluniau gweithredu a’n diwylliant. 

EIN DYFARNIADAU ARIAN ATHENA SWAN ADRANNOL

Y Coleg Peirianneg

GWOBR ARIAN ATHENA SWAN

EIN DYFARNIADAU EFYDD ATHENA SWAN ADRANNOL

COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU

Athena Swan icon

Daearyddiaeth

Athena Swan Bronze icon

Cymerwch Ran

Rydyn ni bob amser yn chwilio am staff a myfyrwyr ymroddedig a brwdfrydig i gymryd rhan yn ein gweithgareddau Athena SWAN. 

Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â’n tîm Cyfle Cyfartal. 

Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnal ystod o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig ag Athena SWAN drwy gydol y flwyddyn. Ewch i dudalennau ein Coleg neu chwiliwch y calendr digwyddiadau i ddysgu mwy. 

E-bost cyfle cyfartal