Cyfeiriadau
Gyrru
Wrth deithio ar yr M4, gadewch y draffordd yng Nghyffordd 42 a dilynwch yr arwyddion i Abertawe ar yr A483
(Ffordd Fabian). Mae Campws y Bae ar ochr chwith Ffordd Fabian, a rheolir y fynedfa gan oleuadau traffig. Mae maes parcio i ymwelwyr yn union i’r chwith o’r brif fynedfa.
Cerdded (Teithio Llesol)
Mae Campws Parc Singleton a Champws y Bae wedi’u cysylltu gan y Llwybr Beicio Cenedlaethol (LlBC, llwybr 4).
Ar y Bws
Yn ystod y tymor, mae bysiau’n rhedeg yn aml rhwng canol y ddinas, Campws y Bae, Campws Singleton, a Phentref Myfyrwyr Hendrefoelan.
Ar y Trên
Mae trenau InterCity cyflym iawn yn teithio bob awr o Lundain (Paddington) i Abertawe ac yn cymryd oddeutu 2 awr 50 munud. Mae’r prif wasanaethau InterCity yn cynnig cysylltiadau i Abertawe o Birmingham, Bristol Parkway, Caerdydd a Llundain. Mae gwasanaethau rhanbarthol hefyd gan drenau Sprinter at orllewin, canolbarth a gogledd Cymru. Yr orsaf drên agosaf i Gampws y Bae yw gorsaf Abertawe, sydd oddeutu 3.3 milltir i ffwrdd o’r campws. Am ragor o fanylion ar yr holl wasanaethau rheilffordd: Ffôn: +44 (0)3457 484950 www.nationalrail.co.uk
Hedfan
O FAES AWYR HEATHROW
Trên: Gallwch naill ai gymryd y bws cyswllt Rheilffordd-Awyr i Reading a’r trên o Reading i Bort Talbot (neu i Abertawe ar gyfer Campws Parc Singleton), neu gymryd y trên o Heathrow i Lundain (Paddington), a’r trên o Paddington i Bort Talbot (neu i Abertawe).
Bws: Cymerwch fws 201 neu 202 o orsaf fysiau’r maes awyr i Abertawe.
O FAES AWYR GATWICK
Trên: Cymerwch y trên o Gatwick i Reading, a’r trên o Reading i Abertawe.
Bws: Cymerwch fws 201 neu 202 o orsaf fysiau’r maes awyr i Abertawe.
O FAES AWYR RHYNGWLADOL CAERDYDD Cymerwch fws neu dacsi i ganol Caerdydd, yna bws Greyhound neu drên i Abertawe.