Coronafeirws: Diweddariadau pwysig am Wasanaethau Bws – Gwybodaeth yn gywir ar 22.12.20
Rydyn ni’n ceisio diweddaru’r wybodaeth hon yn rheolaidd, yn unol â llacio neu dynhau cyfyngiadau.
- Sylwer, yn ystod y pandemig, mae’n debygol y bydd darparwyr gwasanaethau bws yn newid gwasanaethau a gweithdrefnau yn unol â newidiadau i ganllawiau’r Llywodraeth. Fe’ch cynghorir chi i lawrlwytho ap First Cymru er mwyn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwasanaethau First Cymru. Gallwch chi hefyd fynd i’w tudalen we Covid-19 a’u dilyn nhw yn y cyfryngau cymdeithasol.
- Mae gwisgo gorchudd wyneb wrth deithio ar gludiant cyhoeddus yng Nghymru yn orfodol. Ewch i dudalen Gwybodaeth am Wasanaethau yn ystod pandemig Covid-19 First Cymru am ragor o wybodaeth ynghylch gorchuddion wyneb a mesurau diogelwch eraill gan gynnwys canllawiau fideo defnyddiol i roi syniad gwell i chi o ymdrechion First Cymru i'ch cadw'n ddiogel wrth ddefnyddio cludiant cyhoeddus
- Dylech gadw llygad ar wybodaeth a chyngor y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr yn ystod Pandemig y Coronafeirws.
-
Ar ôl dydd Sadwrn 2 Ionawr, caiff y gwasanaethau Parcio a Theithio eu hatal nes clywir yn wahanol. Bydd hyn hefyd yn berthnasol ar gyfer Gwasanaeth 9B rhwng Ffordd Fabian a Champws y Bae. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefannau Cyngor Abertawe a First Cymru
- Mae gan First Cymru wybodaeth gyfredol ar ei wefan am sut yr effeithiwyd ar ei wasanaethau.
- Mae Gwasanaeth Rhif 4 rhwng Campws Parc Singleton ac Ysbyty Treforys trwy Orsaf Fysiau’r Cwadrant bellach yn rhedeg bob 10 munud, ddydd Llun i ddydd Gwener. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan First Cymru.
- Mae Cyngor ar Deithio gan Lywodraeth Cymru ar gael yma.
- Oherwydd yr ansicrwydd parhaus ynghylch Covid-19, ni fyddem yn eich cynghori chi i brynu tocyn bws blynyddol ar hyn o bryd. Os byddwch chi’n prynu tocyn bws blynyddol, dylech chi fod yn ymwybodol na fyddwch chi’n debygol o dderbyn ad-daliad os cyflwynir cyfyngiadau symud pellach.