Diweddariad Coronafeirws
Oherwydd covid-19, rydym bellach yn methu mynd â grwpiau ar Deithiau Tywysedig. Rydym yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa a chyn gynted â bo’n ddiogel, byddwn yn ail-ddechrau ein rhaglen Teithiau Tywysedig ar gyfer myfyrwyr, staff a’r gymuned. Edrychwch yma ar gyfer diweddariadau.
WYDDECH CHI MAI NINNAU OEDD Y BRIFYSGOL GYNTAF YNG NGHYMRU I LANSIO EIN RHAGLEN ARWAIN TEITHIAU EIN HUN, A GEFNOGWYD GAN FEICIO CYMRU?
Mae’r rhaglen, ar gyfer myfyrwyr y brifysgol, staff ac aelodau’r gymuned leol, yn ceisio cefnogi a hybu beicio trwy roi i feicwyr sy’n ddechreuwyr a’r rhai ar lefel ganolig allu gwell, rhagor o hyder a gwybodaeth am ddiogelwch ar yr heolydd, trwy gymryd rhan mewn teithiau beic tywysedig.
Ar hyn o bryd mae gennym ugain myfyriwr ac aelod staff yn y Brifysgol sy’n Arweinwyr Teithiau, wedi’u cymhwyso trwy’r Wobr Arwain Teithiau i fynd â grwpiau ar deithiau tywysedig yn y Ddinas ac o’i chwmpas.