Y newyddion diweddaraf gan ein tîm cynaliadwyedd
Dysgwch am yr hyn mae’n tîm Cynaliadwyedd wedi bod wrthi’n ei wneud.
Cliciwch ar y dolenni isod i ehangu’r erthygl newyddion.
Dysgwch am yr hyn mae’n tîm Cynaliadwyedd wedi bod wrthi’n ei wneud.
Cliciwch ar y dolenni isod i ehangu’r erthygl newyddion.
Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cyflawni Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon ar gyfer y Brifysgol sy'n cydnabod ein lleihad mewn gwastraff o flwyddyn i flwyddyn, a'n hymrwymiad i reoli gwastraff mewn modd mwy effeithiol trwy gynyddu camau atal, ailddefnyddio neu ailgylchu. Cenhadaeth yr Ymddiriedolaeth Garbon yw cyflymu'r broses o symud i economi garbon isel gynaliadwy ac mae ein hymdrechion i leihau gwastraff wrthi'n ein helpu i baratoi'r ffordd tuag at y nod hwnnw.
Gyda chymorth ein darparwr rheoli gwastraff, Veolia, llwyddodd y Brifysgol i leihau cyfanswm ein hôl troed carbon 15% rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Awst 2000. Helpodd hyn i’r Brifysgol dderbyn Safon Gwastraff yr Ymddiriedolaeth Carbon a dyfarnwyd sgôr o 75% i’n harferion rheoli gwastraff enghreifftiol yn yr asesiad ansoddol, o’i gymharu â’r marc pasio o 60%.
Yn ystod y flwyddyn academaidd diweddaraf, gwyrodd y Brifysgol 68% o’r holl wastraff a gynhyrchwyd trwy ei anfon i adfer ynni, trwy barhau i yrru gwastraff i fyny’r hierarchaeth wastraff, gan sicrhau bod pwyslais yn cael ei roi ar atal gwastraff, ailddefnyddio, ac ailgylchu.
Mae asesiad yr Ymddiriedaeth Garbon yn rhoi inni gydnabyddiaeth annibynnol o leihad gwastraff y Brifysgol, a'i gwerthoedd rheoli gwastraff ac mae'n cydnabod cynnydd Abertawe wrth roi prosesau llywodraethu, mesur gwastraff a rheoli gwastraff ar waith. Cynhelir y cyfnod ardystio o 2020 tan 2022.
Darllenwch ragor am ein hymdrechion ar ein tudalennau gwe gwastraff.
Mae #YnYDdolen yn ymgyrch newydd i hybu ailgylchu deunydd pacio bwyd a diodydd yng nghanol dinas Abertawe ac ar y campws. Cafodd ei greu gan yr elusen amgylcheddol Hubbub gyda chefnogaeth gan Brifysgol Abertawe, Cyngor Dinas Abertawe, Canolfan yr Amgylchedd, Cadwch Gymru’n Daclus a 16 o frandiau adnabyddus a sefydliadau lleol.
Gydag amserlenni llawn, yn gynyddol rydym yn bwyta ac yn yfed wrth symud o gwmpas. Mae hyn yn golygu llawer o ddeunydd pacio – rydym yn defnyddio maint anferthol sef 13 biliwn o boteli plastig, 9 biliwn o ganiau diodydd a bron 3 biliwn o gwpanau coffi yn y DU bob blwyddyn!
Ond ar hyn o bryd, nid ailgylchir llawer o’r deunydd pacio hwn. Dyma newyddion da: bellach mae Abertawe #YnYDdolen gydag ailgylchu wrth fynd, ac rydym yn cefnogi’r ymgyrch yn llawn ym Mhrifysgol Abertawe!
Mae #YnYDdolen yn ymgyrch newydd i hybu ailgylchu deunydd pacio bwyd a diodydd yng nghanol dinas Abertawe ac ar y campws. Cafodd ei greu gan yr elusen amgylcheddol Hubbub gyda chefnogaeth gan Brifysgol Abertawe, Cyngor Dinas Abertawe, Canolfan yr Amgylchedd, Cadwch Gymru’n Daclus a 16 o frandiau adnabyddus a sefydliadau lleol.
Bellach mae 2 fath o fin ailgylchu ar draws canol dinas Abertawe ac ar y campws:
Biniau melyn ar gyfer gwydr, poteli plastig a chaniau:
Gosodwyd 40 bin ailgylchu melyn newydd yng nghanol dinas Abertawe, ar gyfer ailgylchu gwydr, poteli plastig a chaniau diodydd gwag.
Biniau oren ar gyfer cwpanau coffi:
Gellir ailgylchu cwpanau coffi ond bydd angen biniau ar wahân. Gellir eu gosod yn y biniau oren a leolir yn y strydoedd ac mewn siopau. Hefyd gellir eu gadael gyda Starbucks, Caffè Nero, Costa Coffee neu McDonald’s yng nghanol dinas Abertawe.
Byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithdai er mwyn cefnogi’r ymgyrch dros gyfnod o 5 mis.
Yn gyntaf, arddangosir ‘The Wave’ gan yr artist lleol Wren Miller, y tu allan i Dŷ Fulton o 19 Medi tan 29 Medi.
Crëwyd y cerflun hwn gan yr un maint o ddeunydd ailgylchadwy a deflir yn y DU bob 20 eiliad! Dyna ddychrynllyd. Felly, gwnewch gymaint ag y gallwch – ni allai fod yn haws. Ailgylchwch ar y campws ac wrth i chi symud o gwmpas y ddinas, a helpwch ni i helpu’r blaned!
Dysgwch ragor am ymgyrch #YnYDdolen yma. Er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a gweithdai cliciwch yma.
Oeddech chi’n gwybod bod y Brifysgol yn safle casglu cyhoeddus cofrestredig ar gyfer TerraCycle?
Mae TerraCycle yn darparu rhaglenni ailgylchu yn rhad ac am ddim wedi’u hariannu gan frandiau, cynhyrchwyr a gwerthwyr er mwyn ein galluogi i gasglu ac ailgylchu gwastraff sydd yn anodd ei ailgylchu’n gyffredinol. Ers mis Mawrth 2019, rydym wedi cymryd camau cadarnhaol tuag at leihau maint y gwastraff a fyddai wedi’i ystyried a’i drin yn wastraff na ellid ei ailgylchu yn y gorffennol, ac rydym wedi anfon y gwastraff hwnnw i gael ei drin at ddibenion adfer ynni. Gyda’n myfyrwyr, ein staff a’n cymuned yn cyfranogi’n weithredol, rydym wedi ailgylchu’r eitemau gwastraff canlynol rhwng mis Mai 2019 a mis Mawrth 2020:
Unwaith iddynt gael eu casglu, gwahenir yr eitemau fesul math o ddeunydd, cyn cael eu glanhau a’u toddi er mwyn creu plastig caled a ellir ei ail-lunio er mwyn creu cynnyrch eildro newydd. Fel casglwr rydym yn ennill pwyntiau ar sail maint yr eitemau a gasglwyd, a rhoir yr arian a godir i sefydliadau elusennol o’n dewis. Hyd yn hyn, rydym wedi rhoi £60 i elusen Discovery, £24 i elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac mae ein casgliadau yn helpu i godi arian ar gyfer ysgolion lleol hefyd.
Gallwch gyfranogi unrhyw bryd drwy gasglu’ch gwastraff a’i adael yn y safleoedd casglu dynodedig yn y Brifysgol. Rydym yn casglu offer ysgrifennu, pacedi creision, cnau, popgorn a phretzels, yn ogystal â phods coffi a’u deunydd pacio o gwmnïau Tassimo a L’OR. Nid yn unig myfyrwyr a staff sydd yn gallu defnyddio ein safleoedd casglu TerraCycle, ond y gymuned ehangach hefyd!
Gallwch ddarllen rhagor am TerraCycle gan gynnwys rhestr o’r gwastraff a dderbynnir a lleoliadau ac oriau agor ein safleoedd casglu ar ein tudalennau Gwastraff
Sylwer bod pob safle casglu ar gau dros dro oherwydd Covid-19.
Prynwyd byrnwr polystyren i ailgylchu gwastraff pecynnu untro o labordai
Ym mis Chwefror, cyflwynodd y Tîm Cynaliadwyedd 5 cynnig i Gronfa'r Economi Gylchol Llywodraeth Cymru. Datblygwyd y gronfa i gefnogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gynyddu ailgylchu, ac yn ei dro, gefnogi datblygiad economi gylchol i Gymru. O’r 5 cynnig a gyflwynwyd, roedd un yn llwyddiannus gan sicrhau cefnogaeth ariannol; Prosesu Polystyren i Gynyddu Ailgylchu. Defnyddiwyd y cyllid gwerth £14,614.08 i brynu Byrnwr Polystyren Ehangedig (EPS), a ddyfeisiwyd i gywasgu blychau polystyren (PS) 06 a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan labordai’r Brifysgol. Yn hanesyddol, ni allai’r Brifysgol ailgylchu gwastraff PS 06, tan nawr. Mae Nodyn Arweiniad Rheoli Gwastraff newydd WMGN34 Ailgylchu Plastig Labordai EPS Blychau Polystyren a Blychau Polypropylen yn egluro’r fethodoleg i labordai ei dilyn i ailgylchu PS 06 a PP 05 o hyn ymlaen. Bydd y byrnwr newydd yn galluogi’r Brifysgol i gynyddu’r hyn a ddargyfeirir wrth adfer ynni, a thirlenwi yn ogystal â blaenoriaethu deunydd newydd yn yr Hierarchaeth Gwastraff.
Mae’n tîm Cynaliadwyedd wedi ymuno â Plastic Free Swansea ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe i ddod â’r chwyldro ail-lenwi i Abertawe.
Mae Refill Abertawe, a fydd yn lansio ar 24 a 25 Tachwedd yn Amgueddfa’r Glannau yn ystod y Ffair Werdd, yn rhan o ymgyrch genedlaethol arobryn City to Sea Refill sy’n cael ei chyflwyno ledled Cymru gyda chefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru a chwmnïoedd dŵr Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy. Meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn:
“Bydd rhagor o Orsafoedd Ail-lenwi ar hyd ein harfordir yn helpu i leihau nifer y poteli plastig sy’n cyrraedd y môr, sy’n gallu cael effaith ddinistriol ar ein hamgylchedd morol. Dyma gam arall tuag fy uchelgais, sef mai Cymru fydd ‘Cenedl Ail-lenwi’ gyntaf y byd.”
Problem Plastig
Yn ôl y Gymdeithas dros Warchodaeth Forol (MCS), mae pob oedolyn ar gyfartaledd yn prynu mwy na thair potel blastig bob wythnos, sef nifer syfrdanol o 175 o boteli fesul unigolyn bob blwyddyn. Caiff cyfanswm o tua 7.7 biliwn o boteli plastig eu prynu ledled y DU bob blwyddyn, sy’n arwain at wastraff plastig defnydd untro sylweddol sy’n cyrraedd ein moroedd.Yn ogystal â helpu i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon o lygredd plastig defnydd untro, bydd Refill hefyd yn cynyddu argaeledd dŵr yfed o safon yn sylweddol.
Bydd y cynllun gwerin gwlad hwn yn annog pobl i roi’r gorau i blastig di-bwynt a dechrau cario potel ailddefnyddiadwy, drwy ddarparu Gorsafoedd Ail-lenwi cyfleus mewn lleoliadau ar draws y ddinas, gan gynnwys ar gampysau Prifysgol Abertawe. Bydd ap Refill defnyddiol yn dangos lleoliadau’r holl Orsafoedd Ail-lenwi lleol.
Bod yn Orsaf Ail-lenwi yn Abertawe
Gall busnesau lleol, gan gynnwys caffis, barau, bwytai, banciau, orielau, amgueddfeydd ac eraill gymryd rhan yn Refill Abertawe drwy gofrestru a bod yn Orsaf Ail-lenwi yn y gymuned. Mae’n syml iawn. Lawrlwythwch yr Ap Refill, gwasgwch ar sgrîn y map a’i dal a nodi manylion eich busnes, ynghyd â llun. Drwy ddangos sticer dŵr tap am ddim yr ymgyrch Refill yn eu ffenestri, gall busnesau ddangos eu hymrwymiad i leihau plastig di-bwynt a rhoi gwybod i’r bobl sy’n mynd heibio fod croeso iddynt alw mewn i ail-lenwi.
Yn ystod yr wythnos cyn lansio Refill Swansea, bydd Prifysgol Abertawe yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau ar y campws, gan gynnwys cyfres o ddarlithoedd i hyrwyddo’r cynllun i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth am y rhain maes o law.
Esboniodd ein Swyddog Cynaliadwyedd a Lles a Hyrwyddwr Lleol Refill, Teifion Maddocks, pam y dylai busnesau a chwsmeriaid gymryd rhan yn Refill Swansea:
“Bellach, plastig, gan gynnwys poteli plastig defnydd untro, yw’r math o lygredd mwyaf cyffredin ar draethau’r DU a does dim rhaid i chi edrych yn bell i’w gweld wedi’u gwasgaru ar draws ein trefi a’n mannau gwyrdd. Mae Refill Abertawe’n rhoi cyfle i’r gymuned a busnesau lleol adael y math hwn o lygredd yn y gorffennol yn ein dinas arfordirol brydferth.
“I sefydliadau, mae ymuno â’r cynllun yn gwneud synnwyr busnes cadarn hefyd, gan fod cwsmeriaid yn ystyried busnesau sy’n darparu ffynonellau ail-lenwi dŵr am ddim yn fwy ffafriol ac maent yn fwy tebygol o ddychwelyd i brynu yno yn y dyfodol.
Ychwanegodd:
“Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol gynaliadwy flaengar ac rydym wrth ein boddau i allu cefnogi Refill ar y cyd â’n partneriaid Plastic Free Swansea ac Undeb y Myfyrwyr. Mae’n Swyddogion yn Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn brysur iawn yn cefnogi lansiad yr ymgyrch. Bellach, mae gennym o leiaf 30 o orsafoedd Refill ar draws campysau’r Bae a Singleton i’r holl gymuned eu defnyddio!
I gael gwybod rhagor am Refill, ewch i www.refill.org.uk.
Fel rhan o'n hamcan parhaus i leihau'r gwastraff a grëir gan y Brifysgol drwy hyrwyddo atal, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau elusennol lleol gan roi dodrefn ail-law o safon ac eitemau tebyg eraill er mwyn iddynt gael eu hailddefnyddio.Daw’r eitemau a roddir o waith adnewyddu i adrannau, ac ad-leoliadau yn ogystal â newidiadau i sut rydym yn gweithio, lle nad yw’r eitemau yn ymarferol neu'n addas ar gyfer y lle neu'r gwasanaeth mwyach. Drwy roi desgiau, cadeiriau, droriau ungoes, cypyrddau ffeilio, biniau ailgylchu a chrochenwaith, i enwi ond ychydig ohonynt, er mwyn iddynt gael eu hailddefnyddio, rydym yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, ac yn lleihau ein hôl-droed carbon cyfunol, wrth hefyd atgyfnerthu cysylltiadau â'n hysgolion ac elusennau.
Esboniodd Julian Kennedy, Pennaeth Ysgol Dyffryn Taf, wrth iddo ddiolch i'r tîm cynaliadwyedd am y rhodd o gadeiriau, desgiau a biniau y canlynol: "Heb sôn am y manteision ymarferol ac ariannol i'r ysgol, mae'n dda bod yn rhan o raglen sy'n helpu i hyrwyddo cynaliadwyedd ac sy'n lleihau gwastraff, wrth hefyd helpu i atgyfnerthu'r cysylltiadau rhwng yr ysgol ac un o gyrchfannau allweddol posib i'n myfyrwyr Chweched dosbarth."
Esboniodd Mark Tribe, Gofalwr Ysgol Gynradd Llangyfelach: "mae'r biniau newydd wedi cael croeso mawr yn yr ysgol ac maent wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, gan yn y gorffennol, bu'n rhaid inni ymdopi â biniau cardbord oherwydd diffyg cyllid." Mae'r disgyblion yn mwynhau eu defnyddio fel rhan o'n proses ailgylchu barhaus."
Mae ein rhoddion celfi wedi helpu Canolfan Wirfoddolwyr Ystradgynlais i wella’r cyfleusterau hamdden, addysg a gweithdy sydd ar gael yn y ganolfan a chodi arian at ei gweithrediadau elusennol. Caiff y celfi eu darparu am gost ostyngol neu’n rhad ac am ddim i deuluoedd mewn angen. “Mae cymorth Prifysgol Abertawe i Ganolfan Wirfoddolwyr Ystradgynlais hefyd yn atgyfnerthu ein cyfrifoldebau cymdeithasol ac amgylcheddol corfforaethol i’n haelodau a’n cymunedau trwy hwyluso cymorth ar lefel lawr gwlad ar gyfer y bobl sydd yn yr angen mwyaf." Liz Davies, Canolfan Wirfoddolwyr Ystradgynlais.
Os ydych chi'n gwybod am sefydliad elusennol rydych chi'n credu y gallai elwa o'n cynllun ailddefnyddio, cysylltwch â'r Tîm Cynaliadwyedd.
Dros wyliau’r haf, ni oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i lansio Rhaglen Arwain Beicio mewn partneriaeth â Beicio Cymru.
Mae’r rhaglen newydd hon ar gyfer yr holl gymuned, gyda’r nod o annog mwy o bobl yn y Brifysgol a’r gymuned leol i feicio drwy gynnig teithiau beicio a arweinir yn rheolaidd sy’n cynnig amgylchedd diogel lle gall beicwyr o bob lefel:
Nod y rhaglen yw datblygu tîm o feicwyr brwdfrydig sy’n angerddol ac sydd am rannu hynny gydag eraill. Bellach, mae gennym ugain o Arweinwyr Beicio cymwys yn y Brifysgol sy’n cynnwys staff a myfyrwyr ac sy’n cynrychioli amrywiaeth o Golegau Academaidd ac Unedau Gwasanaethau Proffesiynol. Mae’n Harweinwyr Beicio bellach yn gwbl gymwys i ddarparu teithiau beicio a arweinir i’r Brifysgol a’r gymuned leol.
Mae’r fenter wedi dechrau ar garlam, gan y cynhaliwyd eisoes dros ugain o deithiau beicio a arweinir gan Arweinwyr Beicio, ac mae llawer mwy yn yr arfaeth dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.
Meddai Jayne Cornelius, Swyddog Teithio Cynaliadwy a chydlynydd y cynllun:
“Dw i wrth fy modd fy mod wedi gallu cydweithio â Beicio Cymru i ddod â’r cynllun gwych hwn i’r Brifysgol.
“I mi, mae cael ein myfyrwyr a’n staff ar feic yn flaenoriaeth. Nid yn unig mae’n bwysig o safbwynt cynaliadwyedd, mae hefyd yn wych i hyrwyddo lles gan ei fod yn dda i’ch iechyd corfforol, eich iechyd meddwl, eich bywyd cymdeithasol a’ch cyfrif banc!
“Mae’r Rhaglen Arwain Beicio yn fenter beicio wych arall i’r Brifysgol, gan gynnig cyfle i’n staff a’n myfyrwyr gymryd rhan mewn teithiau beicio mewn grŵp a arweinir gan feicwyr brwdfrydig.”
Ychwanegodd Jayne: “Gall unrhyw un gymryd rhan yn y teithiau beicio mewn grŵp, ac os nad oes ganddynt eu beiciau eu hunain, gallant neidio ar Feic Santander. Mae’r teithiau beicio’n gynhwysol iawn ac yn llawn hwyl a byddwn yn cynnal llawer ohonynt drwy gydol y flwyddyn. Gan fod y tymor pantomeim yn nesáu’n gyflym, bydd y daith feicio nesaf ar thema ‘Jack and the Beanstalk Ride to the Giant Store’ yn mynd â beicwyr i ymweld â’n ffrindiau yn y Giant Store (Trendz) i gael cyngor ar gynnal beic a’r cyfle i gael ychwanegiadau beic am bris gostyngedig.”
I gael gwybod rhagor a chadw’ch lle chi ar un o’n teithiau beicio a arweinir, ewch i www.letsride.co.uk, neu gallwch e-bostio Jayne yn uniongyrchol.
Dyrannwyd grant gwerth £4,000 er mwyn datblygu Gardd Blodau Gwyllt Ôl-ddiwydiannol ar Gampws y Bae
Mae Swyddog Bioamrywiaeth Prifysgol Abertawe wedi sicrhau cyllid gwerth £4,000 gan Grow Wild er mwyn datblygu gardd blodau gwyllt ôl-ddiwydiannol ar Gampws y Bae.
Mae’r Swyddog Bioamrywiaeth, Ben Sampson, wedi bod yn gweithio’n agos gyda staff a myfyrwyr ar Gampws y Bae a fydd yn gwella profiad ar y campws a gwella bioamrywiaeth y campws yn sylweddol.
Cynhaliwyd digwyddiadau plannu a oedd yn cynnwys myfyrwyr a staff y Brifysgol ar y safle a bydd y gerddi’n agor cyn hir mewn digwyddiad lansio swyddogol. Cadwch lygad am fwy o wybodaeth...
Meddai'r Swyddog Bioamrywiaeth, Ben Sampson:
“Bydd y prosiect gwych hwn yn arddangos prydferthwch “chwyn”, gan ddangos sut gellir defnyddio blodau gwyllt i hybu gwerth bywyd gwyllt ein dinasoedd ac, yn bwysicach byth, gysylltu Campws y Bae â’i orffennol diwydiannol. Mae gwenyn a pheillwyr eraill wedi bod trwy gyfnod anodd yn ystod y blynyddoedd diweddar, ond drwy blannu blodau addas yn ein gerddi, gallwn ni helpu i newid hyn."
Os oes diddordeb gennych chi mewn cael rhagor o wybodaeth am y fenter wych hon, neu gymryd rhan ynddi, e-bostiwch Ben yn Benjamin.Sampson@abertawe.ac.uk.
Gallwch ddarllen mwy am yr ardd blodau gwyllt yma.
Cewch ragor o wybodaeth am y gwaith gwych y mae Ben yn ei wneud i wella bioamrywiaeth ar y campws yma.
Rhwng 18 a 20 Mawrth 2019, cynhaliodd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe Bythefnos Byddwch yn Wyrdd 2019, sef digwyddiad blynyddol a gynhelir â'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth staff a myfyrwyr am amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â chynaliadwyedd. Gan adeiladu ar dwf parhaus digwyddiadau'r blynyddoedd diweddar, cynhaliwyd digwyddiad 2019 dros bythefnos ac roedd yn cynnwys amrywiaeth eang o ddigwyddiadau mewn safleoedd amrywiol ar draws y Brifysgol. Cafwyd diweddglo syfrdanol i Bythefnos Byddwch yn Wyrdd, wrth i drafodaeth banel llawn gwybodaeth gael ei chynnal am bwnc sy'n derbyn ymchwydd o gefnogaeth.
Mae gwaith i drefnu Pythefnos Byddwch yn Wyrdd 2020 eisoes wedi dechrau, felly os oes gennych syniadau, os ydych chi am welddigwyddiad penodol yn cael ei gynnal neu os hoffech fod yn rhan ohono, cysylltwch â'r Tîm Cynaliadwyedd.
Cyfeirnod | Teitl | Rhagor o Wybodaeth |
---|---|---|
TGN001
|
Sylweddau sy’n Teneuo’r Osôn
|
Rydym wedi llunio Nodiadau Canllaw Technegol newydd sydd ar gael ar fewnrwyd y staff |
TGN002 |
Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid – Cofrestru a Hawlenni Mewnforio |
Rydym wedi llunio Nodiadau Canllaw Technegol newydd sydd ar gael ar fewnrwyd y staff. |
Ddim yn berthnasol |
Label Gwastraff Cemegol |
Mae’r Label Gwastraff Cemegol wedi cael ei diwygio i ddangos a yw gwastraff yn deillio o weithgareddau ymchwil neu addysgu. O hyn ymlaen, mae’n rhaid atodi’r label newydd i’r holl eitemau gwastraff sy’n cael eu cludo i’r storfeydd gwastraff cemegol ar y ddau gampws. Gall staff y Brifysgol ddod o hyd i ddogfennau ar fewnrwyd y staff. |