Mae iechyd a lles ein cymuned yn flaenoriaeth
Mae iechyd a lles ein staff yn hanfodol i ni yma ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym eisiau sicrhau bod pob diwrnod yn un da.
Mae pawb yn gwybod bod cydweithwyr hapus, iach ac sydd wedi’u cymell yn fwy tebygol o gyrraedd nodau personol a nodau ar y cyd a chynnal cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.
Rydym yn ymrwymedig i gynnal, gwella a diogelu lles unigolion drwy ddatblygu a chyflawni rhaglen gydlynol o wasanaethau lles i’n cydweithwyr elwa arnynt.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau lles isod. Anfonwch e-bost atom os ydych yn ymwybodol o unrhyw fuddion eraill i staff yr hoffech eu hyrwyddo.