Ein rhaglen ymgysylltu â staff
Cynllun gwobrwyo Cynaliadwyedd a Lles yw SWell. Dyma ein rhaglen ymgysylltu unigryw sy’n gwobrwyo staff ym Mhrifysgol Abertawe am eu gweithredoedd o ran cynaliadwyedd a lles yn y gwaith.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda SWell, gallwch gwblhau ein gweithgareddau cynaliadwyedd neu ddod i’n gweithgareddau i ennill pwyntiau SWell. Mae eich pwyntiau SWell yn eich helpu i ddringo’r tabl arweinwyr ac ennill gwobrau. Gyda thalebau a gwobrau raffl i’w hennill, yn ogystal â rhoddion elusennol ar gyfer y perfformwyr cyffredinol gorau, mae llawer o ffyrdd i ennill gwobrwyau.
Rhagor o wybodaeth am SWell.