Ymgysylltu â myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe
Ceir llwyth o ddigwyddiadau, gweithgareddau a mentrau gwahanol i fyfyrwyr fanteisio arnynt ym Mhrifysgol Abertawe. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn ailgylchu, bioamrywiaeth, lles neu rywbeth yn y canol, mae gennym rywbeth ar eich cyfer! Yn syml, anfonwch e-bost i'w ychwanegu at y rhestr bostio fel y byddwch yn cael gwybod am ddigwyddiadau'r dyfodol yn gyntaf.
Y Wobr Cynaliadwyedd yw ein rhaglen unigryw i ymgysylltu â myfyrwyr. Gall myfyrwyr unrhyw bwnc, mewn unrhyw flwyddyn o’u gradd, weithio tuag at ennill y wobr hon yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe. Ehangwch y tabiau isod i ddysgu rhagor.