Gweithdrefnau Gweithredol y System Rheoli Amgylcheddol Presennol
Ategir ein System Rheoli Amgylcheddol gan ein gweithdrefnau gweithredol sy'n cefnogi'r gweithgareddau o ddydd i ddydd a wneir ar ein campysau. Mae'r tabl isod yn rhestru gweithdrefnau a dogfennau gweithredol canolog y Brifysgol ar gyfer y System Rheoli Amgylcheddol.
Mae gwybodaeth bellach ynghylch trefniadau lleol ar gael gan y Colegau Academaidd a'r Gwasanaethau Proffesiynol unigol (gwasanaethau cymorth/gweinyddol y Brifysgol).
Gall ein staff lawrlwytho polisïau a dogfennau cysylltiedig ar dudalennau mewnrwyd y staff.
Os nad ydych yn aelod staff ond mae angen dogfen benodol arnoch chi, cysylltwch â'n Tîm Cynaliadwyedd.