Adroddwch amdano! yw ein system adrodd hwylus ar-lein ar gyfer digwyddiadau a damweiniau andwyol sy'n ymwneud â gwydnwch iechyd, diogelwch, amgylcheddol a busnes.
Beth yw digwyddiad amgylcheddol andwyol?
Gall digwyddiadau amgylcheddol andwyol gynnwys amrywiaeth eang o sefyllfaoedd a allai neu sydd wedi arwain at ddamweiniau neu ddigwyddiadau, neu a wnaeth bron arwain at ddamwain neu amgylchiadau annymunol. Gallai'r rhain fod yn:
- golledion hylif
- difrod ffisegol i'r amgylchedd lleol
- gwaredu/storio gwastraff yn anghywir
- lles bywyd gwyllt
- allyriadau anarfaethedig i'r awyr, ar y tir neu i ddŵr
- sŵn
Pam cofnodi digwyddiadau andwyol?
Mae cofnodi digwyddiadau andwyol yn ein galluogi ni i ddysgu o'r sefyllfa a gwneud newidiadau i atal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Yn dilyn unrhyw ymchwiliad, bydd nodi ffactorau risg y gellir eu rheoli yn y dyfodol a rhoi cynlluniau gweithredu ar waith yn cefnogi gweithrediadau diogel a chynaliadwy ar ein campysau.
Sut gallaf gofnodi digwyddiad andwyol?
Gallwch gofnodi digwyddiad andwyol ar ein Tudalennau Iechyd a Diogelwch.