Arwain y ffordd ym maes Rheoli Amgylcheddol mews addysg uwch
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae gennym brofiad helaeth o reoli ymchwil blaengar i gynaliadwyedd amgylcheddol ac adlewyrchir hyn yn ein hymagwedd fodern at reoli amgylcheddol.
Mae ein Polisi Cynaliadwyedd yn amlinellu'n hymrwymiad i sicrhau ein bod yn rheoli effaith ein gweithrediadau ar yr amgylchedd yn ofalus.
I'n helpu i gyflawni hyn, rydym yn defnyddio System Rheoli Amgylcheddol ffurfiol sy'n cael ei chydlynu gan ein Tîm Cynaliadwyedd.
Ni oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill statws Platinwm EcoGampws ar gyfer ein system rheoli sydd wedi derbyn ardystiad ISO14001:2015, sef y fframwaith rheoli amgylcheddol a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am ein system rheoli amgylchedd isod: