Yn 2016, ni oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gyflwyno cynllun Prosiect Ynni Myfyrwyr (TSEP) yn ein preswylfeydd ar Gampws Parc Singleton i'n helpu ni i leihau ein hôl troed carbon a chynnig arbedion cost ynni. Yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu, cofnododd y TESP ostyngiad o 4% yn ein defnydd o ynni trydanol, gan gyfateb i 60,000 kWh o arbedion.
Beth yw'r Prosiect Ynni Myfyrwyr (TESP)?
Pan fyddwch yn cofrestru'ch ystafell gyda TSEP, gallwch fonitro eich defnydd o ynni a dŵr yn hawdd. Mae'r cynllun yn cynnig canllawiau syml i arbed ynni megis defnyddio golau naturiol yn lle troi'r goleuadau ymlaen a diffodd dyfeisiau pan na fyddant yn cael eu defnyddio. Os ydych chi'n defnyddio llai o ynni nag y disgwyliwyd, gallwch ennill pwyntiau y gallwch eu cyfnewid am wobrau gwych.
Sut gallaf fod yn rhan o TSEP?
Mae ymuno â TESP yn rhwydd. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cofrestru'ch ystafell. Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru, gallwch ymuno drwy gystadlaethau, gwirfoddoli, cyrsiau ar-lein a hyd yn oed gyfleoedd swyddi drwy TESP.
Bod yn gynrychiolydd TESP
Os ydych chi'n hynod frwd, gallwch fod yn gynrychiolydd TESP a'n helpu i annog myfyrwyr eraill i gofrestru ar y cynllun. I ddangos gwerthfawrogiad am eich ymrwymiad, cewch siwmper am ddim, bonysau arian a phrofiad gwaith mewn cwmni yn y sector ynni.
Gallwch wylio fideo am TSEP yma a chael gwybod mwy yma.