Caffael cynaliadwy ym Mhrifysgol Abertawe
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn deall bod gan ein penderfyniadau prynu oblygiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Rydym yn sicrhau ein bod ni'n dewis y nwyddau a'r gwasanaethau rydym yn eu prynu'n ofalus iawn ac mewn ffordd gynaliadwy. Mae'n Polisi Caffael Cynaliadwy'n amlygu'r ymrwymiadau rydym yn eu gwneud a fydd yn sicrhau ein bod ni'n prynu mewn ffordd gynaliadwy.
Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy am sut rydym yn sicrhau prynu cadarnhaol ym mywyd pob dydd yma ym Mhrifysgol Abertawe.
CAETHWASIAETH FODERN A CHADWYNI CYFLENWI MOESEGOL
Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn gweithredu'n gyfrifol i sicrhau ein bod ni'n cydymffurfio â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Rydym yn ymrwymedig i weithio tuag at sicrhau nad oes unrhyw gaethwasiaeth fodern na masnachu pobl yn ein cadwyni cyflenwi neu mewn unrhyw ran o'n busnes. Cliciwch yma i weld y datganiad llawn ar Datganiad Caethwasiaeth Fodern.
I sicrhau cydymffurfio a gwella arferion gweithio ac amgylcheddol, rydym yn gysylltiedig â'r sefydliadau a'r safonau canlynol: