Y Ffin Fyd-Eang Nesaf

Caiff nanodechnoleg, sef trafod pethau hynod fach (ar lefel atomau a moleciwlau), ei ystyried yn eang fel ffin fyd-eang nesaf gwyddoniaeth, gan ddod â manteision economaidd a chymdeithasol sylweddol drwy dorri tir technolegol newydd mewn ffordd fawr sy'n gwella ansawdd bywyd. Mae maes nano-ddiogelwch yn ymwneud ag asesu'r goblygiadau iechyd a diogelwch unigryw sy'n deillio o'r diwydiant cyffrous hwn.

Mae'r is-thema nano-ddiogelwch yn mwynhau €13 miliwn o gyllid, fel rhan o'r prosiect H2020 PATROLS traws-Ewropeaidd. Nod y prosiect pwysig hwn yw darparu fframwaith rheoleiddio cliriach ar gyfer nanoronynnau.

Image of a Cell

Ffocws Ymchwil Ein Meysydd Nano-Ddiogelwch

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Grŵp Tocsicoleg In Vitro Prifysgol Abertawe wedi bod yn ganolog i'r gwaith o ddatblygu profion diogelwch wedi'u safoni er mwyn sicrhau y gellir nodi'r peryglon i bobl sydd ynghlwm wrth nanoddeunyddiau, sy'n angenrheidiol er mwyn gallu asesu risgiau. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu technegau in vitro i ganfod y prosesau sy'n gysylltiedig â thocsisedd a ysgogir gan nanoddeunyddiau. Rydym yn olrhain effaith nanoffurfiau sy'n berthnasol i ddiwydiant ar ystod o wahanol fodelau in vitro o feinweoedd dynol, ac yn cysylltu'r rhain â'u heffaith fiolegol bosibl.

Canlyniadau Ymchwil

O fewn y thema nano-ddiogelwch, mae academyddion, ymchwilwyr a myfyrwyr ôl-raddedig yn gweithio i sicrhau bod ein hymchwil yn ehangu ein dealltwriaeth wyddonol o risgiau tocsicoleg nanoddeunyddiau. Mae ein hymchwil wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu profion diogelwch i nodi peryglon nanoddeunyddiau ac wrth ddatblygu technegau newydd i gyflawni hyn.

Microscope
Researcher in yellow Lab Coat

Strategaeth Profion Genodocsicoleg Ar Gyfer Nanoddeunyddiau

Am y tro cyntaf roedd y cyhoeddiad hwn yn amlinellu'n benodol pa systemau profi cymeradwy rheoleiddiol oedd yn briodol ar gyfer profion niwed i DNA nanoddeunyddiau a lle roedd angen addasiadau dull. Mae'r argymhellion a'r canllawiau wedi cael eu mabwysiadau yn eang yn rhyngwladol. Mae'r papur yn ategu'r newidiadau i ymarfer rheoleiddio ac o ganlyniad mae wedi cael ei ddyfynnu gan gyrff rheoleiddio a Sefydliad Iechyd y Byd. Roedd y papur yn allbwn allweddol a arweiniodd at ennill prosiect PATROLS Horizon 2020.

Ymchwilwyr Cyswllt

Wedi'i arwain gan yr Athro Shareen Doak, mae'r Grŵp Ymchwil Nanoddiogelwch yn canolbwyntio'n bennaf ar genodocsicoleg nanoddeunyddiau (Yr Athro Doak a'r Athro Jenkins) a thocsicoleg mewnanadlu (Dr. Clift).

Arianwyr Cyfredol a Phrosiectau Cyfredol a Ariennir

CALIN Logo and EU Funding Logos
Public Health England