Y Ganolfan Ar Gyfer Iechyd Y Boblogaeth

Mae'r ganolfan hon, sy'n cwmpasu Cymru gyfan, yn canolbwyntio ar ddull gydol oes, ac mae iddi ddwy brif thema, sef Datblygiad Iach ac Oes Gweithio Iach. Rydym wedi cael mwy na £30m ar gyfer prosiectau gan gynnwys grymuso pobl ifanc yn eu harddegau i newid eu hardal leol (a ariennir gan Sefydliad Prydeinig y Galon), ymchwilio i effaith COVID-19 ar ysgolion cynradd (a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol), gwella iechyd mewn cymunedau gwledig (a ariennir gan Sefydliad Nuffield), gan ddefnyddio dulliau dysgu datblygedig i wella'r amser a gymerir i wneud diagnosis o arthritis (UCB Pharma Limited). Rydym yn rhan o'r Astudiaethau Craidd Cenedlaethol sy'n mynd i'r afael â COVID-19 (y Cyngor Ymchwil Feddygol) ac yn gweithio ar lefel ryngwladol gyda Chanolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).

Researchers looking at diabetes research

Canolbwynt Ymchwil Iechyd A Llesiant Y Boblogaeth

Mae ein hymchwil yn edrych ar ymyriadau sy'n cefnogi iechyd a llesiant pobl drwy gydol eu hoes. Er enghraifft, mae ein gwaith ym maes y blynyddoedd cynnar yn cynnwys Ganwyd yng Nghymru, sef astudiaeth carfan geni o blant a anwyd yn ystod COVID-19 athu hwnt; HAPPEN, sef rhwydwaith o ysgolion cynradd ledled Cymru, gyda mwy na 200 o ysgolion; ac ACTIVE, sy'n gweithio gyda phobl ifanc yn eu harddegau i wella llesiant a sicrhau bod amgylcheddau iach ac actif ar gael i bawb.

Canlyniadau Ymchwil

Rydym ni’n defnyddio’r ymagwedd hon i helpu i ddyfnhau ein dealltwriaeth o sut y gallwn ddefnyddio “data mawr” i wella iechyd, cyfoeth a chyfleoedd y boblogaeth. Gan ddefnyddio data wedi’i anomeiddio, mae ein hymchwil o’r radd flaenaf yn ceisio gwella bywyd a lles poblogaeth y DU. Rydym ni wedi gweithio gyda’r gymuned ffermio yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr i wella ein dealltwriaeth o bwysau amgylcheddol, gan greu canlyniadau iechyd gwell a gwella incwm aelwydydd ffermio. Mae gennym lifau gwaith sylweddol â’r nod o wella iechyd mamau a babanod a gweithio tuag at ddealltwriaeth well o gyflyrau cronig hirdymor.

Research talking to results

Gwella Bywydau Ffermwyr Y Du

Mae Ymchwil Data Gweinyddol y DU y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi buddsoddi £600,000 er mwyn deall aelwydydd ffermio'n well. Caiff data o'r sector cyhoeddus ledled y DU ar weithgareddau amaethyddol a defnydd tir eu cysylltu â data demograffig, addysgol ac iechyd i greu'r llwyfan data dienw DU-gyfan gyntaf sy'n canolbwyntio ar amaethyddiaeth. Ein nod yw darparu tystiolaeth a fydd yn helpu'r llywodraeth i gefnogi ffermwyr, eu haelwydydd a'u cymunedau, a datblygu'r gwaith ar y cyd â'r gymuned ffermio o ran y cwestiynau ymchwil a'r gwaith o ddehongli a chyfleu'r canfyddiadau. Bydd y gwaith hwn yn llywio penderfyniadau a wneir ar bolisi yn y dyfodol, gan arwain at ymatebion gwell i heriau megis ymateb i bwysau amgylcheddol, cynhyrchu canlyniadau iechyd gwell, a gwella incwm aelwydydd ffermio.