Meeting in ILS2

Cydweithiwch â ni yn ysbryd arloesi agored

Rydym yn gwneud mwy na hyfforddi meddygon yn unig, rydym yn mentro bod yn wahanol. Rydym yn gweithio mewn cyd-destun ymarfer clinigol, ymchwil, menter ac arloesi rhyngddisgyblaethol. Mae gan ein model unigryw botensial enfawr i gyflwyno economi gwybodaeth iechyd a gwyddor bywyd gynaliadwy.

Mae ein cymuned o glinigwyr, ymchwilwyr ac entrepreneuriaid o'r un meddylfryd yn cydweithredu i ddatrys heriau clinigol, gan symud syniadau ymchwil o gyfnod y cysyniad i fasnacheiddio.

Mae ein cangen Menter ac Arloesi'n cynnig mynediad i bedwar llawr o labordai a chyfleuster ymchwil clinigol. Rydym yn cynnig arbenigedd ym maes ymchwil biofeddygol, iechyd poblogaeth y cyhoedd, gwybodeg, teleiechyd, ymchwil gwasanaethau iechyd, nanodechnoleg a llawer mwy.

Rydym yn cynnig mynediad i:

  • Ardal deor i ddatblygu ac i dyfu eich syniad busnes
  • Eiddo Deallusol a chymorth busnes
  • Cymorth ariannu a cheisiadau grant
  • Arbenigedd ymchwil rhyngddisgyblaethol
  • Cyfleusterau'r Brifysgol a'r Ysgol Feddygaeth

Eiddo Deallusol

Man on Ipad

Datblygu eich Gweithlu

Sticky notes on a board
Shaking hands in corridor
Dewch yn gyswllt