Ni allwn aros i'ch croesawu ym mis Medi

Mae dechrau yn y Brifysgol yn adeg gyffrous ond weithiau nerfus ac eleni, yn fwy nag erioed, rydyn ni’n deall y byddwch chi eisiau sicrhau eich bod chi wedi’ch paratoi yn drylwyr ar gyfer yr hyn sydd o’ch blaen chi.  Pair â phoeni!  Rydyn ni wedi llunio cyngor a gwybodaeth er mwyn eich paratoi chi.

Bydd mis Medi wedi cyrraedd ymhen dim!  Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld!

Byw yn Abertawe

Mae Campws Singleton yn clwydo mewn lleoliad hardd, rhwng traeth godidog Bae Abertawe a pharcdir gwyrdd Parc Singleton, lle perffaith i gael picnic amser cinio a threulio diwrnodau ar y traeth ar y penwythnos. Mae traeth y campws (dyna sut rydym yn hoffi meddwl amdano) yn ganolfan rhagoriaeth chwaraeon dŵr ac yn fan poblogaidd ymhlith myfyrwyr sy’n chwilio am le i astudio neu i gael hoe amser cinio. Mae Parc Singleton yn gartref i gaeau gwyrdd anferth, gerddi botaneg, llyn cychod bach (pedalos ar ffurf elyrch!) a maes golff gwyllt.

Astudio gyda ni

Mae ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr yn dweud wrthym fod ein cymuned fach wedi eu helpu i wneud ffrindiau am oes, bod ganddynt berthynas dda â'u darlithwyr a helpu i roi'r profiad gorau iddynt wrth astudio gyda ni. A phan ddaw'n fater o gael mynediad i gyfleusterau o'r radd flaenaf mae gennym hynny hefyd. Yn yr asesiad diwethaf, cawsom ein rhestru'n 1af yn y DU ar gyfer Yr Amgylchedd Ymchwil – sy'n golygu mynediad at gyfleusterau ac ymchwilwyr gwych yn ystod eich astudiaethau.