Hoffi'r hyn rydym yn ei wneud, ac yn dymuno bod yn rhan ohono?

Dewch yn aelod o rwydwaith o fusnesau gwyddor bywyd o'r un meddylfryd trwy rentu swyddfa bwrpasol neu heb rentu un. Cewch fynediad at gyfleusterau a chymorth trwy un o'n pecynnau aelodaeth risg isel, rhad ardderchog. Mae pecynnau aelodaeth gwahanol i weddu eich gofynion.

Beth yw Aelodaeth Gyswllt?

Pobl busnes

Mae Aelodaeth Gyswllt yn gysylltiad â'r Ysgol Feddygaeth drwy'r Athrofa Gwyddor Bywyd.

Mae Aelodaeth Gyswllt yn rhoi mynediad i aelodau at:

  • Cyfeiriad ILS at ddibenion postio
  • Ystafelloedd cyfarfod a chynadledda, gan gynnwys cyfleusterau a chyfarpar arbenigol, a rhywfaint o ddefnydd cyfyngedig am ddim
  • Seminarau a gweithdai a drefnir gan yr Ysgol Feddygaeth
  • Digwyddiadau rhwydweithio, gan roi'r cyfle i gydweithio â Chysylltiadau a Sefydliadau Cleient eraill
  • Mynediad at staff Cymorth Busnes

Mae Aelodaeth Gyswllt ar gyfer:

  1. Busnesau newydd ac unigolion ar gyfnod cynnar iawn y gwaith o ddatblygu eu busnesau.
  2. Sefydliadau mawr sy'n dymuno datblygu safle mewn amgylchedd arloesol i archwilio cyfleoedd busnes
  3. Staff neu fyfyrwyr y Brifysgol sy'n dymuno dechrau syniad busnes o'r ymchwil a gynhaliwyd ganddynt

Beth yw'r Cynllun Tenantiaid?

Dyn ar yr iPad

Y Cynllun Tenantiaid yw'r Rhaglen Deor Busnesau ar gyfer busnesau Iechyd a Gwyddor Bywyd cyfnod cynnar y mae ganddynt ddyheadau i dyfu trwy ddatblygu eu harloesed wrth ochr ein hymchwilwyr blaengar a mynediad at ein cyfleusterau o'r radd flaenaf.  Mae'r Cynllun Tenantiaid yn rhoi mynediad i gymorth, cefnogaeth a swyddfa mewn un o'n hadeiladau i fusnesau cyfnod cynnar.

Mae ein hadeiladau ILS1 ac ILS2 wedi'u hadeiladau'n arbennig i ddarparu amgylchedd i ddatblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau er lles iechyd dynol. Bwriad amgylchedd yr ILS yw cynorthwyo sefydliadau arloesol i dyfu'n gyflym. Disgwylir y bydd sefydliadau'n aros yn ILS am 2 i 5 mlynedd, yn ystod y cyfnod hwnnw byddant wedi ehangu ac yn barod i symud i swyddfeydd mwy neu i ddatblygu eu swyddfeydd eu hunain.

Mae Aelodaeth Tenantiaid yn rhoi’r pethau canlynol i’r aelodau:

  • Swyddfa yn yr ILS gyda mynediad at gyfleusterau i ddatblygu eich syniad busnes
  • Mynediad i labordai
  • Ystafelloedd cyfarfod a chynadledda, gan gynnwys cyfleusterau a chyfarpar arbenigol, a rhywfaint o ddefnydd cyfyngedig am ddim
  • Seminarau a gweithdai a drefnir gan yr Ysgol Feddygaeth
  • Digwyddiadau rhwydweithio, gan roi'r cyfle i gydweithio â Chysylltiadau a Sefydliadau Cleient eraill
  • Mynediad at staff Cymorth Busnes

Mae Aelodaeth Tenantiaid ar gyfer:

  1. Busnesau newydd ac unigolion ar gyfnod cynnar iawn y gwaith o ddatblygu eu busnesau.
  2. Sefydliadau mawr sy'n dymuno datblygu safle mewn amgylchedd arloesol i archwilio cyfleoedd busnes
  3. Staff neu fyfyrwyr y Brifysgol sy'n dymuno dechrau syniad busnes o'r ymchwil a gynhaliwyd ganddynt
  4. Buddsoddwyr mewnol (byd-eang, BBaCh, micro-gwmnïau)
  5. Sefydliadau ymchwil y Llywodraeth